Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/243

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb dderbyn wyneb, yn cael eu cynnyg i bawb yn ddiwahaniaeth, a selio dilysrwydd y bendithion hyn a dawn yr Ysbryd Glan. Debyg mai dyma a barodd i'r ysgol o feirniaid hanesyddol yn yr Almaen ddadleu mai llyfr ydoedd Llyfr yr Actau, a sgrifennwyd yn un swydd i gyfannu'r rhwyg rhwng canlynwyr Paul a'r blaid Iddewig, dan ddylanwad ysbryd Catholig yr ail ganrif. Ond nid oes neb erbyn hyn yn dodi'r Actau yn llyfr yn yr ail ganrif. Y mae dysgawdwyr blaenaf yr Almaen ei hun yn gosod yr Actau yn llyfr pur gynnar, a'r nodiadau oedd yn sail iddo yn gynharach fyth.

O ganlyniad, od yw gras a ffydd ac efengyl i bawb yn rhan o draddodiad boreaf yr Eglwys, ac od yw'r holl bethau hyn yn dyfod i ni, yn ol y traddodiad hwnnw, trwy Grist Iesu, naturiol ydyw casglu bod y cylch o ideon a bregethid gan Paul ynglŷn a'r pynciau hyn, bod y rheini hefyd yn dderbyniol gan gorff mawr y disgyblion cyntaf. Yn wir, er mai Paul a fu'n foddion i wneuthur maddeuant trwy waed y Groes yn rhan o ddysgeidiaeth gynefin yr Eglwys, yr oedd traddodiad y tô cyntaf o ddisgyblion wedi paratoi'r tir i dderbyn y ddysgeidiaeth hon. Yr hyn a fu yng Nghymanfa Jerusalem yn wir a ddigwyddodd hefyd ym mhrofiad cyffredinol yr Eglwys, syniadau Pedr yn paratoi'r brodyr i dderbyn y datguddiad a roddes yr Ysbryd trwy enau Paul, Teg ydyw casglu fod dehongliad Paul ar y cyfiawnhad, fel maddeuant trwy waed y Groes—yr idea sydd yn Rhufeiniaid iii. am Dduw yng Nghrist yn dangos ei awdurdod i faddeu —wedi cymryd ei lle yn naturiol ac yn rhwydd, gan oreuon y saint, fel yr unig ddehongliad teilwng ar yr athrawiaeth.

Nid heb wrthwynebiad, a gwrthwynebiad tanllyd, yn ddiau y bu hyn. Ni fuasai efengyl Paul ddim gwerth ei phregethu, oni bai ei bod hi'n werth ei herlid. "Yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes."