Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/244

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yn ddiweddaf, a dyfod yn ol i'r man y cychwynasom, fe welir bellach nad oes dim sefyllfod deg rhwng idea'r Iesu ei hun o awdurdod i faddeu pechodau ag idea'r Apostolion o gyd-gysylltu'r awdurdod honno â'i enw ef, a'r datguddiad a gaed ynddo, ac a choron y datguddiad hwn-ag angau'r Groes. Y mae Denney wedi dangos tu hwnt i bob dadl[1] wrth esbonio "Gwaed y cyfamod," nad oedd y datblygiad yma ar yr efengyl a bregethasid ganddo ddim o gwbl yn newydd nag yn ddieithr i feddwl yr Iesu chwaith.

Gwir fod yr Arglwydd Iesu yn cysylltu'r awdurdod i faddeu a'i ddisgyblion yn gystal ag â'i berson ei hun. Galwai'r dyrfa hi yn "awdurdod i ddynion"; a dichon bod hynny'n golygu nid yn unig awdurdod er budd dynion, ond awdurdod i'w gweinyddu gan ddynion hefyd. Eithr ni wna ronyn o wahaniaeth i'r prif bwnc sy gennym, sef ei fod ef yn cyfrif, ddyfod yr awdurdod i faddeu i ddynion trwyddo ef, mai efo oedd cyfryngwr yr awdurdod hon. "Pregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef" sydd i fod wedi ei ddyrchafiad ef i ddeheulaw'r Tad, yn gystal a chyn hynny. Nid dechreu rhyw fyd newydd yn unig a wnaeth ef, lle y mae awdurdod i faddeu yn ddeddf, ond efo sydd i fod yn Gyfryngwr ac yn Frenin y byd hwnnw.



Robt, Evans a'i Fab, Cyhoeddwyr, Gwasg y Bala.

  1. The Death of Christ.