Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaith a wneir gan rai o weinidogion Lloegr a'r Alban o dŷ i dŷ, i'w wneud yn y Seiat. Yn Seiat Jerusalem yr oedd yr awyr mor deuluaidd, a'r gweinidog yn deall amgylchiad pawb mor dda, fel y cyrhaeddid yr un peth trwy ymddiddan cyhoeddus yno, ag a gyrhaeddir gan lawer gweinidog trwy ymddiddan personol. Nid cynghorion cyffredinol yn unig a geid, ond cyngor mor gymwys weithiau i'r neb a fyddai'n ei gael, na fuasai'n gymwys i braidd neb ond hwnnw. O fewn terfynau doethineb, ni phetrusai Mr. Roberts ddweud pethau wrth yr aelodau ar gyhoedd, oedd yn ffrwyth ei adnabyddiaeth bersonol o honynt. "Wyt ti'n meddwl, fy machgen i," meddai unwaith wrth ymddiddan ag un i'w dderbyn i'r eglwys, "fod arnat ti eisieu gras i fyw'n dduwiol?" "Oes," ebai'r bachgen." Ebai Mr. Roberts, "oes, lawer iawn hefyd, fwy na chyffredin, cred hynny." Byddai ambell air ac ambell i anerchiad a geid ganddo mewn Seiat, llawn mor darawgar, meddir, a'i bregethau goreu. Yr oedd ei ddawn i siarad yn ddifyfyr yn ddihareb fel y gwyr pawb. Y mae'n debyg fod y rhyddid sydd mewn Seiat dda yn taro'i ddawn ef i'r dim. Er ei fod yn baratowr cydwybodol, blin ganddo oedd gwneud unrhyw beth, os na byddai dan ysbrydoliaeth ar y pryd yn gystal a bod wedi paratoi. Am bregethu y dywedai, "Dylai dyn gael pregethu pan fynno fo, a pheidio pan fynno fo." Y Seiat, o bob man, oedd y lle i bregethwr, heb ddim byd marw, offerynnol, o'i gwmpas, fod ar ei oreu. Ymddengys fod ganddo'r athrylith berffeithiaf a welodd yr oes yma at gadw Seiat.

Ond yr oedd elfennau a wnaent Thomas Roberts mor lwyddiannus yn y cyfarfod eglwysig yn cyrraedd i holl gylchoedd ei lafur,-yr ysbrydoliaeth ryfedd, ag arfer gair Morgan Llwyd, un o'i hoff awduron ef; y gonestrwydd di-dderbyn-wyneb, a'r tynerwch digymar. Dywed Mr. J. Owen Jones, o'r Bala, iddo'i weled ef yn ei golli ei hun yn hollol, wrth weinyddu'r