ordinhad o Swper yr Arglwydd. Safodd i siarad, ag un o'r elfennau yn ei law, heb orffen cyfrannu yr ochr honno i'r capel; ac wedi siarad nes anghofio popeth, trodd i fynd tua'r sêt fawr, fel pe buasai'r rhan honno o'r gwasanaeth ar ben; ac yn ei ol i'r sêt fawr yr aethai oni buasai i Robert Parry 'r blaenor adnabyddus ei atal, a dangos ei waith iddo. "Y ffordd yma,' meddai Parry, "yr ydych i fynd." Byddai ei weddiau wrth fwrdd y cymun weithiau yn bethau i'w hir gofio.
Yr un rhyddid dirodres, yr un gonestrwydd, a ddangosai yn ei ymwneud â'r eglwysi oedd dan ei ofal, a welid ynddo hefyd gyd a phobl o'i gydnabod trwy yr ardal a'r ardaloedd. Hawdd deall fod y ddawn yma'n gryn fantais iddo fel holwr ysgol. Bu am flynyddoedd lawer yn dilyn y Cyfarfodydd Ysgolion. Adwaenai'r atebwyr drwy'r holl gylch, a medrai ddeffro tymer ymddiddan ynddynt yn odiaeth o naturiol. Ond cystal enghraifft ag un a glywais o'r rhyddid y soniwyd am dano, bleth ym mhleth a'r boneddigeiddrwydd perffaith a ganlynai hwnnw bob amser yn Mr. Roberts, ydoedd ei waith yn ffonodio blaenoriaid capel heb fod ymhell o'i gartref am eu diffyg dawn siarad. Yr oedd efe wedi bod yn pwyo ar yr un hoel ychydig cyn hynny mewn Cyfarfod Dosbarth. Dywedasai y pryd hwnnw, nad oedd gan flaenoriaid. yr oes ddim digon o ddawn i siarad tra byddai'r pregethwr yn tynnu ei gôt. Yr achlysur iddo ail afael yn y pwnc oedd i frawd oedd yn llywyddu mewn Seiat nos Sul ofyn iddo yntau ddweyd gair y cyntaf peth wedi dibennu'r odfa. "Well i chi i mi dewi," oedd yr ateb, ddwywaith neu dair. O'r diwedd, wedi tipyn o berswadio, dacw Mr. Roberts ar ei draed, pryd y gwelwyd, mai gwell hefyd fuasai gadael iddo; oblegid dechreuodd ar y blaenoriaid oedd o'i ddeutu bob yn un ac un, gan ddatgan ei syndod na buasai ganddynt rywbeth i'w ddweyd. Ac wedi gweini