amryw geryddon pwrpasol, daeth at ŵr yr oedd ganddo fwy na chyffredin o feddwl o hono. (Gwell i mi newid yr enwau.) "Ac am danoch chi Evan Owen," meddai, "Yr ydw' i 'n synnu mwy atoch chi nag at neb o honyn nhw, a chwithau'n hen bynciwr, yn fab i'ch tad, ac yn Evan Owen heblaw hynny." Ar hyn dyma rai o'r gynulleidfa'n dechreu chwerthin. Yna meddai Roberts drachefn, "Raid i chi yn y llawr ddim chwerthin beth bynnag. Yr ydech chi'n salach fyth. Er saled ydi'r rhein, yr oeddech chi'n rhy sal i'ch gwneud yn flaenoriaid. Pwy o honoch chwi fuasai'n medru cyhoeddi cystal a John William Morris? Pwy o honoch chi fuasai'n medru gweddio fel Evan Owen?" Ni chlywais i ddim fod neb wedi teimlo'n ddolurus ar ol yr oruchwyliaeth hon.
Wedi'r cwbl y mae'n dda gan bobl eu trin fel pobl, ac nid fel plant. Gwell ganddynt, ar y cyfan, os byddant yn siwr eich bod yn eu parchu, fel yr oeddynt am y gŵr hwn, gwell ganddynt i chwi siarad yn blaen, lle na byddo bwriad clwyfo; dweyd y peth fel yr ydych yn ei deimlo, ac nid tynnu ei fin trwy ddweyd y peth a ddisgwylir gennych yn hytrach na'r peth a deimlwch sy'n wir. A thrwy'r cwbl y mae'n eithaf tebyg mai pur ddiarwybod mewn rhyw wedd oedd dawn Thomas Roberts i drin pobl. Y mae lle i feddwl ei fod yntau'n barnu mai felly yr oedd hi oreu. Pan ddywedodd rhywun wrtho, dan son am frawd o weinidog oedd wedi methu yn y pwnc yma o drin dynion: "Y ffordd i drin pobl, debyg, ydyw gwneud hynny heb iddyn nhw wybod eu bod yn cael eu trin?" "Ie," meddai Mr. Roberts, "ac heb i chwithau wybod eich bod yn eu trin nhw." Daeth cryn raddau o gyfrinach y gŵr hwn i Dduw allan ond odid yn y gair yna, dirgelwch ei ddylanwad fel gweinidog gartref, fel arweinydd crefyddol, ac fel gwladwr. Nid y dyn sy'n astudio fyth a hefyd pa fodd i ryngu bodd pobl a gochel eu tramgwyddo a fedr y ffordd atynt yn y pen