draw, ond y dyn a'u parcho hwy fel creaduriaid rhesymol, ac a'u cymero hwy i'w gyfrinach i ryw fesur, wrth eu dysgu.
Pan ddaeth Thomas Roberts i gylch Cyfarfod Misol Arfon, daeth i ganol cenhedlaeth o wyr grymus, hŷn. nag ef mewn dyddiau. Yr oedd yn barchus iawn o honynt, fel y bydd pob dyn o gallineb a gras mwy na chyffredin, ac yn barchus iawn ganddynt, a'i onestrwydd lawn cymaint a'i ostyngeiddrwydd a enillai'r parch yma iddo. Dywedai Robert Ellis o'r Ysgoldy am dano'n fynych, "Y mae'n dda gyn i'r bachgen yna. Y mae'i galon o yn ei wyneb o." A'r gŵr oedd mewn cymaint bri gan arweinwyr y genhedlaeth honno oedd tywysog y cyfnod nesaf. Fel un neu ddau arall o arweinwyr Cyfarfod Misol Arfon, ni ddygai Thomas Roberts unrhyw arwydd gweledig o'r lle blaenllaw oedd iddo ym marn ei frodyr, a'r dylanwad cyfareddol oedd ganddo arnynt. Nid yn y sêt fawr yr eisteddai. Ni theimlai rwymau yn y byd i siarad ar bob rhyw beth a ddeuai ger bron. Yn wir, aml yr âi Cyfarfod Misol cyfan heibio, ac yntau yno, heb iddo ddweyd gair. Faint o hyn yma oedd yn ffrwyth tueddfryd ynddo ef, faint hefyd oedd yn ffrwyth dilyn defod ei gyfoedion yn y Cyfarfod Misol, a pha faint a wnaeth efe ei hun i fagu'r defod, nis gwn. Cyn y caech chwi weld faint o dywysog ydoedd, rhaid oedd aros iddo godi i siarad, neu gael ei alw i siarad. Byddai'r galw'n eithaf digon i ddangos i chwi ar bwy yr oeddid yn galw; oblegid os gwrthod a wnâi, neu os byddai mymryn o egwyl rhwng y galw a'i waith yntau'n ufuddhau, nis gallai'r cyfarfod byth braidd beidio dangos ei awydd i'w glywed ef, trwy arwyddion digamsyniol, curo dwylaw, neu rywbeth a atebai yr un diben. Pan gyfodai ar ei draed, anodd fyddai proffwydo pa ddull a gymerai o wynebu'r pwnc. Byddai cymaint o amrywiaeth ganddo ef yn ei areithiau ag y sydd gan ddyn cyffredin yn ei ymddiddanion.