Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dogn arferol i'r naill, heb roi dim llai i'r llall. Dyna oedd cais Mr. Roberts, cael swm penodol i'r Genhadaeth Gartrefol yn wyneb ei hangen ar y pryd, pa un bynnag fyddai hynny, ai mwy ai llai nag un ran o dair, pennu'r swm, yn lle canlyn y ddefod. Yr oedd y casgliad heb orffen dyfod i mewn; a'r wrthddadl i gais Mr. Roberts ydoedd, mai gwell cadw at y drefn, un ran o dair am fod yn well dilyn egwyddor sefydlog na phennu swm ar y pryd. Dadleuid y pwnc gyd a llawer o fedr a dawn. Pan ddaeth tro Roberts i ateb ymaflodd yn y gair "Egwyddor," a dywedai: "Hawdd iawn arfer geiriau mawr am bethau cyffredin. Gofynnodd tad Boswell i rywun pwy oedd y Dr. Johnson hwnnw yr oedd ei fab yn gymaint ffrind ag o; a dyna oedd yr ateb, 'Dyn yn cadw ysgol yn Llundain. Ysgol ydyw hi; ond academy mae o'n ei galw hi.' Felly y mae Mr.——— yn galw rheol fach yn egwyddor. Ysgol ydyw hi; ond academy mae o'n ei galw hi. Rheol ydyw hi; ond egwyddor y mae o'n ei galw hi." A'r ddyfais syml yna y trodd efe'r cyfarfod hwnnw o'i blaid. Bydd yn hir cyn y gwel Cyfarfod Misol Arfon ŵr a fedr ei lygad-dynnu i'r un graddau, ac yn yr un fel ag y medrodd efe. Perthyn ei anerchiadau ar faterion pwysicach a mwy cyffredinol i'r un dosbarth a'i bregethau a'i anerchiadau yn y seiat.

Yr ydym wedi sôn eisoes amryw weithiau am ei gysylltiad a'r Genhadaeth Gartrefol. Gwnaed ef yn Ysgrifennydd iddi yn Sasiwn Dimbech, Mehefin 1889, a bu yn esgob y cylch hwnnw yng ngwir ystyr y gair hyd ddiwedd ei oes. Oni buasai'r llwyddiant mawr a fu ar Genhadaeth Gartrefol y Gogledd o dan ei ofal, cwyno y buasem fod calon mor dyner, a meddwl mor fyw, wedi gorfod dwyn cymaint o feichiau. Ond pa wybod nad ydoedd y gwaith a wnaeth gyd a'r Genhadaeth o gymaint gwerth gan ei Arglwydd, a phe buasai Thomas Roberts wedi byw blynyddoedd yn hwy i bregethu ac i ysgrifennu dau neu dri o lyfrau. Cym-