erai arno lawer o waith a llawer o ofal, na fuasai neb yn dweyd ymlaen llaw fod rhaid wrtho, eto gwaith y gwelai pawb ei werth ar ol gweled ei wneud. Mynnai wybod anawsterau neilltuol pob lle a phob gweinidog, nes bod swydd a allasai fod yn un sych ac offerynnol, wedi mynd yn ei law ef, fel popeth yr ymaflai ynddo, yn rhan o'i fywyd ef. "Y mae hon," meddai wrth Mr. William Lloyd, "wedi yfed f'enaid i."
Y mae'n bryd dweyd gair ar ei bregethu. Wedi'r cwbl, fel y dywedai David Davies o'r Abermo, "Pregethu ydyw gwaith pregethwr." Wrth reswm nid yw'r pregethu i'w gyfyngu i'r adegau y bo yn ei bulpud, ac wedi darllen testyn. Fe gynnwys pregethu bob cyfle a gaffo dyn i ddysgu ei gyd-ddynion am bethau mawr bywyd a duwioldeb. Am anerchiadau achlysurol Thomas Roberts, nid oes dim dwy farn, na lle i ddwy. Anaml iawn y byddai'n llai nag ef ei hun yn y rhai hyn. Llawer gwaith y gwelwyd ef yn gweddnewid cyfarfod dilewych, trwy gipio gair yma ac acw o'r areithiau o'r blaen, a rhoi ryw rwbiad cyflym, egniol, iddynt a'i feddyliau ei hun, nes byddai'r dur a'r gallestr rhyngddynt wedi taro tân cyn iddo eistedd i lawr. Os olaf fyddai ei dro i siarad, dibennai'r ymdriniaeth dan ei choron, ac os tu a'r canol, rhyfedd sôn, byddai'n haws i bawb arall siarad ar ei ol na chynt. Clywais ef yn rhoi rhyw fywyd rhyfeddol mewn gair o araith agoriadol goeth, "Dyddiau ieuenctid yr eglwys." Cododd rywbryd yng nghorff y cyfarfod, a choffaodd yr ymadrodd, "Dyddiau ieuenctid yr eglwys." Ie, yr oedd gair Mr.——— yn peri i ni feddwl am air y proffwyd. "Mi a'i denaf hi ac a'i dygaf i'r anialwch. . . Ac yno y cân hi, megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft." Yna ychwanegai'n fyfyriol, megis rhyngddo ag ef ei hun, Dyddiau ieuenctid yr eglwys. Ie, ni fydd hi byth yn iawn nes ei chael hi'n ifanc yn ei hol." Yr oedd y fath hiraeth yn ei oslef, nes bod pawb yn deall ei