feddwl yn ddeg gwell, na phe buasai wedi cymryd trafferth i roi darluniad manwl o'r gwahaniaeth rhwng ieuenctid yr eglwys a chyfnodau mwy ffurfiol yn ei hanes.
Ces gyfle unwaith i'w wylio ef yn paratoi araith, trwy ddigwydd gael y fraint o gyd-letya ag ef. Rhoes y cyfeillion caredig yr oeddym dan eu cronglwyd gennad i ni, y noson o flaen y cyfarfod, aros ar ein traed cyhyd ag y mynnem; a chan fod Mr. Roberts yn gysgwr pur fylchog, a minnau'n falch o'r cyfleusdra i gael mwy na fy rhan o'i gymdeithas, yr oedd hi yn llawer o'r nos arnom yn mynd i orffwys. Y mater oedd efe i lefaru arno drannoeth oedd, Perthynas yr Efengyl ag Ysbryd Gwerinol yr oes. Ymgomiai yn ol ac ym mlaen ar wahanol bethau, gan ddisgyn yn awr ac yn y man ar bwnc yr araith. (Ymdrechwn innau beidio'i flino ef a chwestiynau.) "Y mae rhyw adnod," meddai, yn Ezeciel, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth." "Ychydig a ddywedodd efe arni yn yr ymddiddan, er troi tipyn o'i deutu hi; ond wrth wrando drannoeth gwelwn beth oedd yntau yn ei weled ynddi, sef rhybudd rhag peryglon yr ysbryd gwerinol. A'r sylw a wnaeth o ar yr adnod oedd hwn:—"Nyni ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir.' Y mae hynny'n cymryd yn ganiataol eu bod hwy cystal dynion ag Abraham." Hyd y gallwn i ddyfalu, wrth i gysgod ambell i feddwl ddisgyn ar yr ymddiddan, peth digon naturiol i Mr. Roberts oedd gweled, wrth baratoi i ddysgu eraill, i ba le yr oedd arno eisieu myned cyn gweled yn glir sut i fynd, gweled y cymhwysiad cyn gweled yr ymresymiad oedd i fod yn sail iddo, a gweled y sylwadau yn aml cyn gweled y pennau. Erbyn clywed yr araith darn bychan iawn o honi oedd y sylw a grybwyllais. Ei baich hi oedd, bod Cristnogaeth, heb law rheoli'r ysbryd gwerinol, yn brif foddion i'w ddeffro ac i'w feithrin. Adroddai hanesyn am un o garcharorion