gwladol Ffrainc, yn dweyd ei deimlad y diwrnod cyn ei ddienyddio. "Pe gwelwn i fory, pan fydda'i mynd ar y trwmbel tu a'r dienyddle, pe gwelwn i'r bachgen butraf yn ystrydoedd Paris mewn perygl o fynd dan yr olwyn, mi wnawn ymdrech deg i'w achub ef; oblegid beth wn i, nad o hwnnw y cyfyd gwaredwr i Ffrainc ryw ddiwrnod." Yna dyfynnodd yr areithydd air Shelley, "Each heart contains perfection's germ." "Ie," meddai Mr. Roberts, gyd a'r floedd danbaid, fuddugoliaethus honno, Ond pwy welsai hedyn perffeithrwydd yn y dyn distadlaf, oni bai i Iesu Grist ei ddangos o? a phwy, er ei weld, a allasai ei ddwyn o i berffeithrwydd, ond yr Arglwydd Iesu Grist."
Ond nid oes dim posibl cyfleu'r araith ar bapur; yr oedd cymaint o'i grym hi yng ngwaith y llefarwr yn troi o gwmpas rhai o'r geiriau, yn adrodd eilchwyl ac eilchwyl,
"Each heart contains perfection's germ."
Yn olaf un yr oedd yn siarad y tro hwn, a'r gynulleidfa yn dechreu aflonyddu cyn iddo godi. Cyn iddo eistedd, mi glywn gyfaill yn sibrwd yn fy nghlust, "Y mae pob llygad yn y lle yma ganddo fo."
Yr oedd y meddwl diweddaf yn yr araith hon yn hoff feddwl ganddo, ac yn rhan bwysig o'i genadwri at ei oes,-Dyled y byd yma am bopeth da a feddai i Iesu Grist. Fel y gwelai Thomas Charles Edwards yr agoriad i bob anhawster diwinyddol ym Mherson a gwaith yr Arglwydd Iesu, felly y gwelai Thomas Roberts yr allwedd i bob cwestiwn o wyddoniaeth, ac athroniaeth, a pholitics, yn yr un man. "I do not think," meddai mewn papur yng Nghynhadledd Saesneg Aberystwyth, that nature will yield up all her secrets to men of science, until they become reconciled to her Maker." Un o'r pethau fyddai'n tanio'i eiddigedd fwyaf fyddai gweled pobl yn ymddigrifo yng nghynnydd rhyddid a brawdgarwch, ac yn anghofio priodoli hynny i Iesu Grist. "Yr holl