fforddolion," meddai wrth bregethu ar y nawfed Salm a phedwar ugain, "Yr holl fforddolion a'i hysbeiliant ef.' Beth ydyw hynny? Pobl yn cymyd pethau'r Messiah, ac yn honni mai hwy pia nhw."
Fel yr awgrymwyd, nid oedd torri llwybr i'w feddwl ym mlaen llaw ddim yn un o ragoriaethau Mr. Roberts. Dywedai un beirniad craff, edmygydd o hono hefyd, fod rhaid addef y byddai Mr. Roberts yn aml yn dewis llwybr troed, pryd y cawsai ffordd fawr. Rhaid addef hefyd debyg, na fyddai'r llwybr troed, lawer tro, mo'r llwybr byrraf i ben y daith; ond er mwyn ambell i gipolwg, pwy na fuasai'n dewis canlyn y pregethwr hyd y llwybr troed? Yr oedd yr hyn fyddai rhwng cromfachau,—geiriau a brawddegau ar hanner eu dweyd,—y cwmpasu a'r cwbl yn llwyr fynd a'ch bryd chwi, wedi i chwi fynych wrando arno, heblaw fod cyflymder symudiadau ei feddwl, a'i law, a'i lais yn peri i chwi anghofio fod llawer sylw wedi ei gychwyn, a'i daflu o'r naill du. Chwi gaech gymaint o frawddegau a gwaith glân arnynt, ac yn enwedig cymaint o weledigaethau, na fyddech chwi ddim yn debyg o gwyno am yr asglodion a'r naddion, oedd, i ryw fath o lygad, yn gymaint o ddifrod ar y defnyddiau. Clywais ef unwaith yn dechreu pregeth fawr y "Gorchymyn Newydd," yn union lle'r oedd o dro arall wedi ei dibennu hi; er hyn i gyd, byddai pob darn yn berffaith, ond nad oedd cynllun y bregeth glir drwyddi ddim yn hawdd ei gofio. Yr oedd y bregeth yn debycach i dref yng Nghymru, wedi tyfu, trwy i hwn a'r llall godi tŷ ynddi, nag i dref yn yr America, wedi ei thorri yn ystrydoedd ym mlaen llaw, —a scwariau bychain rhyngddynt fel bwrdd chware gwyddbwyll,—cyn bod carreg ar garreg eto ar y gwastadedd noeth.
"Efe," fel y sylwai Mr. William James yn ei angladd, "efe oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo." Rhaid oedd iddo ddechreu llosgi cyn goleuo'n iawn a dyna sy'n gwneud rhoi dychymyg am dano i bobl