nas clywsant ef yn ei fan goreu, yn beth anodd iawn. Yr oedd y peth a ddywedai Mr. Roberts am y Proffwydi gynt yn wir am dano yntau. Nid dynion oeddynt yn cael eu cenadwri yn barod at eu llaw. Na, sefyll y byddent ar eu disgwylfa, ymsefydlu ar y tŵr, tremio i'r pellter am y weledigaeth. "Os erys disgwyl am dani; canys hi a ddywed o'r diwedd." (Hi ddaw gan anadlu'n fân ac yn fuan.) "Gan ddyfod y daw, ac nid oeda." Ni fyddai gan y proffwyd genadwri i eraill heb ei bod hi'n gyntaf wedi ei llosgi i'w enaid ef ei hun; felly yntau yr oedd ei genadwri'n costio yn ddrud iddo. Faint bynnag fyddai efe wedi feddwl o'r blaen, byddai raid iddo wrth weledigaeth newydd ar y pryd. Pan fyddai hebddi, di-lewych fyddai'r odfa; ond wedi i chwi ei glywed ef rai gweithiau cystal ag ef ei hun, byddai rhyw ogoniant o hynny allan ar ei odfaon cyffredin. Teimlo a wnaech fel Robert Ellis: "Bydd yn well gen i weld Thomas Roberts yn methu na gweld eich hanner chi'n medru." Pe buasai'n debycach i'r cyffredin, pwy ŵyr na fuasai'r dreth am hynny'n rhy drom? Pwy ŵyr na fuasai'r athrylith yn llai disglair, a'r bywyd heintus a gerddai'r gynulleidfa dan ei weinidogaeth yn llai ei rym?
Bu farw nos Wener, Tachwedd 24, 1899. Disymwth iawn yr ymadawodd.
"Twas like his rapid soul: 'twas meet,
That he who brooked not time's slow feet,
With passage thus abrupt and fleet,
Should hurry hence."
Fel y dywedodd ei briod ddiwrnod y cynhebrwng, "Fe gwynodd lawer ei fod yn methu cysgu. Fe gaiff gysgu dan y bore." Nid oes neb a warafun iddo gael gorffwys, er mor anodd gostegu llais hiraeth. "Felly y rhydd efe hûn i'w anwylyd."