Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II

SYR OWEN EDWARDS

I

GANWYD Owen Edwards yng Nghoed y Pry, ar fin y ffordd o Lanuwchllyn i Fwlch y Groes, ac o fewn rhyw filltir go dda i Orsaf Llanuwchllyn. Owen ac Elizabeth Edwards oedd ei dad a'i fam; ac yr oedd ol y ddau yn amlwg iawn arno. Gan ei fam y cafodd y callineb a'r craffter hanner gwyrthiol a'i nodweddai. Ei dad, wedyn, oedd biau'r elfen gelfydd, freuddwydiol, a berthynai iddo. Yr oedd cof ganddo'i gymryd gan ei dad yn blentyn pur fychan i'r meusydd, a dysgu iddo adnabod y blodau; a bu yntau yn ffrind i'r blodau ar hyd ei oes. Fel ei dad, medrai Owen yntau rigymu o'r goreu. Ar air, etifeddodd bob dawn oedd gan ei dad ond y ddawn ganu. Y marc pellaf a gyrhaeddodd y bachgen ar y llinell honno oedd canu'r cornet; ond rhoes hynny heibio wrth roi heibio bethau bachgenaidd. Yr unig son am dano'n canu ar ol hyn oedd pan oedd ei gyntafanedig yn faban. William Edwards, ewythr trwy briodas i Lady Edwards, a ddigwyddodd fod yn aros gyda hwy yn Llanuwchllyn; ac wrth glywed peth mor amheuthun ag Owen Edwards yn canu gefn nos, cododd i ben y grisiau i wrando; ond pan ddeallodd y penteulu fod ganddo wrandawr, tewi a wnaeth.

Yr oedd llawer o Lanuwchllyn ynddo; a gadawodd yr Annibynwyr lawer o'u dylanwad ar Lanuwchllyn. Y maent yn gryfion yn yr ardal, a buant gynt yn gryfach o lawer. Dywedai Carlyle fod dylanwad