Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Presbyteriaeth ar Scot, er nad oedd Scot ei hun ddim. yn Bresbyteriad. Pan fo enwad yn gryf mewn rhyw gylch, neu wedi bod yn gryf, fe ddaw pawb yno fwy neu lai o dan ei ddylanwad. Ac felly darfu i Owen Edwards, oedd yn Fethodist eithafol (bron na ddywedech chi, rhagfarnllyd) gael yn ei natur ryw gainc o'r Annibynwyr Cymreig hefyd. Nid oedd ef, bid a fynno, ddim yn gynnyrch pur yr Hen Gorff. Yr oedd yn gryn edmygwr o'i gefnder, y Parch. Evan T. Davies, o Landrillo yn awr; a meddyliai gryn lawer o Michael Jones. Effeithiodd ei gyfathrach a'r Annibynwyr arno yn un peth i beri iddo wynebu diwinyddiaeth o safle'r llenor yn fwy na'r athronydd a'r triniwr pynciau. Effeithiodd beth hefyd ar ei ddawn siarad. Gall y sawl nas clywodd ef ffurfio syniad pur dda am ei ddawn wrth wrando Elfed, cyn i Elfed fynd i hwyl. Ni chlywodd yr un o'r ddau mo'i gilydd ond yn anaml; ond y mae'r lleisiau'n debyg wrth naturiaeth, a'r treigliadau, y codi a'r gostwng, yn rhyfeddol o debyg. Er mai'r "llais a'r parabl lleddf" oedd nodwedd Owen Edwards, nid oedd y lleddf mo'r lleddf traddodiadol sy'n perthyn i Fethodist orthodox.

Un o'r prif ddylanwadau arno'n llanc yn y Bala, yn Ysgol Tŷ Tan Domen, ac yng Ngholeg y Methodistiaid, oedd ei gyfeillach â Thom Ellis a David R. Daniel. Mewn oedran na fydd bechgyn lawer yn meddwl nemor am ddim ond mabol gampau a chwareuon, na'r goreuon o honynt yn meddwl am ddim byd lletach ei arfod na'u gwersi ysgol, byddai'r tri yma'n berwi o ddiddordeb mewn llyfrau a darluniau o'r tu allan i'w gwaith ysgol. Darllenwr ar draws ac ar hyd oedd Owen Edwards yn y cyfnod hwnnw; ond gweithio ryw ambell i chwech wythnos fel lladd nadroedd, a dyfod yn agos iawn i'r brig yn yr arholiad.

Y mae'n glod, pa fodd bynnag, i'w athrawon, Ellis Edwards a Hugh Williams, fod wedi darganfod sut fachgen oedd ganddynt yn y gŵr ieuanc y gorfyddai