Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arnynt ambell dro ei ddwrdio am esgeuluso'i waith. Ymresymai yntau â hwynt yn ei ddull hamddenol ei hun. Dywedai fod arno flys cymryd ei fywyd yn ddifyr tra y caffai yr âi yn hen yn ddigon buan. Dibennai'r ymddidanion hyn â'i athrawon weithiau mewn chwerthin a chwpanaid o de, waith arall mewn rhyw sylw crynhoöl gan y Proffeswr, megis hwnnw gan Mr. Williams, wedi hanner awr o ddondio: "Well, I suppose you understand the general tenour of my remarks." Deallodd rhai o honom yn bur gynnar fod y Proffeswr Williams, y lleiaf ei ddylanwad o'r ddau arno, yn ystyried fod Owen Edwards ym mhell tu hwnt i rai a gyfrifid yn drech myfyrwyr nag ef. Er mai llenyddiaeth oedd ei orhoffedd ef o'r cychwyn, medrai oddiwrth wyddoniaeth hefyd. Ychydig a ŵyr erbyn hyn fod Owen yn wyddon pur addawol yn y cyfnod hwnnw. Efo, pan yn Athro Cynorthwyol, fyddai'n hwylio experiments i Ellis Edwards erbyn y dosbarth min nos. Pan oedd hi'n farwaidd iawn mewn un o'r dosbeirth dau o'r gloch, clywsom ffrwydriad embyd mewn ystafell arall; a pheth oedd yno ond Owen Edwards wedi torri'r llestri trwy roi gormod o bwysau ar yr hydrogen wrth ei fagu erbyn rhyw arddangosfa yn yr hwyr. Diangodd yn ddianaf; ond rhwng ei wyneb ef a'r bwrdd gwaith oedd yr unig lecyn yn yr ystafell heb wydr mân arno.

Yn Aberystwyth dechreuodd cyfnod newydd, cyfnod y gweithio caled, cyfnod a barhaodd heb nemor of fylchau hyd oni ddiosgodd ei arfau ddeugain mlynedd yn ddiweddarach. Heb lawer o fylchau a ddywedais, waith nid oedd ei wyliau ef, gan mwyaf, ddim yn fylchau yn ei dymor llafur, gan y byddai ganddo o hyd rywbeth ar droed, rhyw dynnu lluniau lleoedd hynod; ac yr oedd maint y diddordeb a gymerai ym mhob peth ar ei deithiau yn ei drethu ef fwy o lawer nag y trethasent un o ddiddordeb llai. Y mae gwrando pregeth i bwrpas yn trethu mwy o'r hanner