arnoch na gwrando'n ysgafala. Nid cyfnod diffrwyth oedd y cyfnod o'r blaen chwaith. Yr oedd Owen Edwards, mewn gwirionedd, wedi darllen Ceiriog a Swift a Shakespeare a Wordsworth a Ruskin mewn oedran na fydd bechgyn yn gyffredin wedi darllen dim ond a osodwyd iddynt. Ac onid coll difrifol yn ein system ni hyd heddyw—gwaeth heddyw braidd nag o'r blaen—yw y gall bachgen hwylio am o saith i ddeg o flynyddoedd llafurus, at fynd yn feddyg, neu gyfreithiwr, neu bregethwr, heb fedru dim ar ddiwedd y tymor ond a ddysgodd at arholiadau? Y mae'n meusydd llafur ni'n rhy drymion i ddyn gael hamdden i edrych dim dros y clawdd heb fod yn wrthryfelwr yn erbyn ei athrawon. Mynnodd Owen Edwards y cyfryw hamdden cyn cymryd ei dorri i mewn at weithio mewn rhych. Ond wedi dechreu gweithio wrth reol, fe ymroes ati hi'n ddiymarbed. O hynny'n mlaen, yr unig fai gan ei athrawon arno fyddai gweithio'n rhy ddyfal. Clywais Benjamin Jowett yn dywedyd—yn y cyfarfod ysgwyd llaw hwnnw fyddai yn Balliol ar ddiwedd y tymor: "It's a very foolish and a very wrong thing, Mr. Edwards, not to take proper care of your health." Curodd bawb ar Lenyddiaeth Saesneg yn Arholiad Cyntaf B.A. Llundain—yr arholiad a elwir weithiau yn Intermediate. Ysgubodd rai o'r gwobrau dosbarth yn Glasgow yn yr unig dymor gaeaf y bu yno. Cafodd un o'r Brackenbury Scholarships yn Balliol, tair o wobrau cyhoeddus, agored i'r holl golegau yn Rhydychen fel ei gilydd, a graddio yn y dosbarth blaenaf yn yr Ysgol Hanes. Estynnwyd ei Ysgoloriaeth o bedwar ugain punt iddo flwyddyn yn hwy, er mwyn iddo gael teithio ar y Cyfandir. Dysgodd lawer iawn ar y daith hon. Gwelodd y byd a'r betws.
Yr oedd nid yn unig yn weithiwr dygn, ond yn weithiwr cyflym hefyd. Pan oedd yn Aberystwyth, daeth Golygwyr Cylchgrawn yr Athrofa ato ryw fore