yn niwedd tymor, a phawb yn hwylio mynd adref, i grefu am erthygl; ac od oedd bosibl, am ei chael hi ym mhen ychydig oriau. Dywedodd Edwards yr ysgrifennai un, ond iddynt hwy bacio'i goffr ef at fynd i ffwrdd. Addawsant hynny, ac aeth y ddau ati mor selog nes pacio gormod—wel, y cwbl a feddai'r ysgrifennwr, ac ym mysg pethau eraill ei ddwy het yng ngwaelod y coffr. Y pryd hwnnw byddai pawb yn gwisgo het neu gap; a rhaid oedd mynd i brynu, neu fynd adref heb ddim am ei ben. Pa fodd bynnag, gorffennwyd yr erthygl yn ei phryd. Medrai Owen Edwards fraslunio'r rhannau olaf o draethawd tra fyddai yn ysgrifennu'r rhan flaenaf allan yn llawn-llanw a llunio ar unwaith. Bu ef a minnau am rai tymhorau'n mynd a thraethodau i'w beirniadu at y Peniadur Jowett. Ac ar un o'r boreuau hynny gwelais fy nghyfaill rai gweithiau heb gael amser i orffen ei draethawd, dim ond ei fraslunio; a pha beth a wnâi pan fyddai hi felly, ond deud y traethawd wrth yr Athro; ac hyd yr wyf yn cofio, un waith yn unig y cafodd ei ddal. Yr oedd ei siarad ef mor debyg i ddarllen: "Y llais a'r parabl lleddf," na wyddai'r Athro, gan amlaf, mo'r rhagor.
Dechreuodd bregethu pan yng Ngholeg y Bala; a daliodd i bregethu nes ymsefydlu'n Athro yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, pryd yr aeth y ddau waith yn ormod iddo. Ei gred ef, bid a fynno, ydoedd fod siarad a chynulleidfa o dipyn o faint yn lladd mwy arno na dim a wnâi. Yr oedd yn bregethwr tra chymeradwy. Fel y gallesid disgwyl, y wedd brydferth i'r gwirionedd a dynnai ei fryd ef y rhan amlaf. Cofir aml un o'i bregethau hyd heddyw,—"Y Balmwydden," "Gedrwydden," "Harddaf hefyd le fy nhraed." Ar y cyfan fe gytunai y rhan fwyaf fod disgrifiad hen chwaer grefyddol a chraff odiaeth, yn bur gywir am dano: "He lays a splendid table, but doesn't press it." "Bwrdd ardderchog, ond dim