Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer o gymell." Eto, fe wnaeth rai pregethau a brofai y gallasai ragori mewn dull arall o bregethu. Er siampl, yr oedd ganddo un ar yr unfed ar bymtheg o Ezeciel-Pregeth y Tair Chwaer; a'r idea oedd, rhai wedi bod yn cyd-bechu yn cael eu cydgosbi a'u cyd-ddychwelyd. "Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a'i merched, a chaethiwed Samaria a'i merched, yna y dychwelaf dy gaethion dithau a'th ferched yn eu canol hwynt." Amlwg oedd y medrasai bregethu i'r gydwybod; ond â'r elfen gelfydd farddonol yn ei wrandawyr yr ymwnâi fynychaf, er bod amcan ymarferol ganddo bob amser.

Cafodd amryw alwadau yn fugail—un i Frederick Street, Caerdydd, un i Landderfel, a rhai heblaw hynny. A'r syndod yw, er bod pregethu Owen Edwards yn bregethu mor newydd, ac yn enwedig o newydd ym mhlith y Methodistiaid, fod hen flaenoriaid ceidwadol yn "dwlu arno," chwedl pobl y De.. Gwelais un yn dyfod ato unwaith, ac yntau ym mysg rhyw dri neu bedwar o honom, a gofyn iddo—" Owen Edwards, rowch chi gyhoeddiad yng Nghwm Tir Mynech?" Tynnodd Owen ei lyfr allan; ac ar hynny ailfeddyliodd y Blaenor. "Arhoswch," meddai, "mi ga'i 'ch gweld chi eto. Os gofynna'i i chi 'rwan, mi fydd raid i mi ofyn i'r rhein i gyd ": a ninnau, os gwelwch chi'n dda, 'n clywed y cwbl! Dyna'r sut bregethwr oedd Owen Edwards.

Cyn gado'r rhan yma o'i hanes byddai cystal crybwyll un peth neilltuol iawn ynddo. Ni fu bregethwr erioed a mwy o gydwybod ganddo yng nglŷn a'i ymddygiad mewn tai ar ei deithiau pregethu. Fel y gŵyr llaweroedd, yr oedd yn un o'r rhai difyrraf ei gwmni; ac os yr un, yn hoffach o gwmni merched nag o gwmni meibion; ond ni fu un amser ynddo ddim a barai i neb feddwl llai o weinidogaeth yr Efengyl. Ystyriai, a dywedai yn gyfrinachol, nad oedd hi ddim yn iawn i ddyn gymryd mantais ar ei