goeddiadau pregethu, a'i gysylltiadau fel pregethwr, i ffurfio cyfeillach serch â neb. Ei syniad ef oedd, gan fod y teuluoedd yn ein croesawu ni i'w tai fel pregethwyr, nad oedd yn deg manteisio ar y cysylltiad hwnnw i gyrraedd unrhyw amcan arall pa mor anrhydeddus bynnag.
Am Owen Edwards fel llenor, y peth a'n synna ni fwyaf ydyw, mor llwyr yr oedd sylfeini'r llwyddiant mawr a gafodd, a'r dylanwad eithriadol a enillodd, wedi eu gosod pan oedd ef yn myned trwy'r athrofeydd. Os llenyddiaeth fyddai pwnc yr ymddiddan, efe fyddai enaid y cwmni. Yr oedd ganddo lygad dewin i ddyfod o hyd i drysorau llên. Yr oedd rhyw gyfaredd o ysbrydoliaeth o'i gwmpas, rhyw ddawn i'ch tynnu chwi heb yn wybod i'r un cywair ag ef ei hun. Cof gennyf fod pedwar neu bump o honom wedi mynd am dro hyd lethrau Moel Emol, ger llaw Llanfor, ac un o lyfrau Ceiriog gyda ni i'w ddarllen. Yr wyf yn cofio o'r goreu fod Tom Ellis yno, a W. S. Jones, y ddau ar eu gwyliau haf o Rydychen. Dyma sefyll neu eistedd mewn cornel lle y cyfarfyddai dau glawdd i gael tipyn o gysgod gwynt, a gosod Owen Edwards i ddarllen Ifan Benwan. Ac nid anghofiodd neb oedd yno byth mo'r hwyl pan ddaethpwyd at y pennill:
"I fyw yn gynnil hyd fy oes,
Medd Ifan, 'mi ofala;
Chaiff neb byth ddweud fod gennyf fi
Ddim mwy o gaws na bara.
"Ac yna torrodd slisen fawr,
A dododd honno'n isaf;
Ac wedyn torrodd slisen fach,
A dododd honno'n uchaf."
Ni wn i ddim hyd heddyw beth a barodd iddi hi dorri'n gymaint tymestl o chwerthin yn y fan yna ar y gân. Diau fod gwynt iach a'r cwmni llawen yn cyfrif peth