Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am dano; ond darllen Owen Edwards oedd y peth mwyaf.

Dechreuai gynllunio at roi gwaith darllen i'r Cymry ym mhell cyn gorffen ei addysg ei hun. Pan yn Rhydychen yn fyfyriwr, anfonodd at John Ruskin. i ofyn ei gennad i gyhoeddi cyfieithiad Cymraeg o dri o'i lyfrau ef. Rhyngodd ei lythyr fodd y dysgawdwr enwog yn fawr dros ben. "You have made me as proud as a peacock," meddai, "to find that there is some spirit left in Wales, not crushed out by manufactures and education. And your choice among my books has pleased me much." Nid wyf yn cofio'n sicr pa rai oedd y llyfrau. Tybied yr wyf fod y Crown of Wild Olives yn un, ac fe allai yr Ethics of the Dust yn un arall. Ond rhaid bod rhywbeth yn llythyr y bachgen a apeliai yn ddwfn at yr hen wron. Ni chafodd y llyfrau hynny mo'u cyfieithu ; ond yr oeddynt yn yr arfaeth.

Efe oedd ysbryd cynhyrfiol Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Nid oeddym yn ddigon hyffordd y pryd hwnnw i wybod mai Cymdeithas Ddafydd ap Gwilym a ddylasai ei henw hi fod. Nid nad oedd gan y lleill eu cyfraniad at fywyd y cwmni hwnnw; ond credaf y byddent oll yn eithaf bodlon i chwi ddywedyd mai'r "Arch-Dderwydd" oedd blaenor y symudiad. Fo ddysgai yn wir gan rai llawer llai nag ef ei hun; ond camp ac nid coll ynddo oedd hynny. Fo wyddai yn well na neb arall beth a fedrai'r lleill bob un ei wneuthur oreu; a champ fawr mewn arweinydd ydyw hynny. Efo oedd yr Ysgrifennydd cyntaf, fel y gwelir oddiwrth erthygl wych Llywelyn Williams yn y Welsh Outlook. Ond wrth fod yn ysgrifennydd cyntaf fe gafodd gyfle i argraffu ar y Gymdeithas ryw ystwythter a rhyw naturioldeb rhwydd, a chadwodd hithau ef, mi gredaf, trwy genhedlaeth ar ol cenhedlaeth o fechgyn. Buasai ambell i 'sgrifennydd yn siwr o ladd cymdeithas fel hon trwy