Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dorri rhigolau rhy gaethion iddi weithio ynddynt. Pob. peth a ddywedai'r Ysgrifennydd hwn, fe dueddai i fagu rhyddid ac nid i'w fygu. Byddai ei gofnodiony rhai a anfonid i'r papur, braidd heb eu newid,-yn gyrru'r frawdoliaeth yn gandryll wrth glywed eu darllen yn y cyfarfod nesaf. Dywedasai un o'r bechgyn, a hwnnw'n bregethwr, un o'r bechgyn goreu o honom hefyd,-air yscaprwth, mewn tipyn o afiaith wrth glywed sylw mwy cyrhaeddgar na'i gilydd : "Go dda! ïe, byth o'r fan yma!" A dyma'r fel yr ymddangosodd y cofnod yn "Y Goleuad":

"Ar ol y sylw diweddaf cyfeiriai hwn a hwn mewn dull gwamal at ddydd sicr ei dranc." Yr oedd gan Owen Edwards y dalent ryfeddaf i agor llif-ddorau doniau pobl eraill, yn gystal a dywedyd pethau di-gyffelyb ei hun. Ar ol iddo ymadael i'r Cyfandir ar y daith y soniwyd eisoes am dani, fe welodd yn y papur Gywydd John Morris Jones, "Cwyn Coll am y Brodyr Ymadawedig." Yr oedd yr awdur wedi gadael heibio bedair llinell o'r Cywydd, am y tybiai y mae'n debyg eu bod yn grafiad rhy gignoeth i'w printio ar goedd gwlad. Yr un dyddiau ag y printiwyd y Cywydd heb y rheini, fe ddigwyddodd i minnau, yn fy niniweidrwydd arferol, yrru'r pedair llinell hynny i Owen Edwards mewn llythyr, fel siampl o ddoniolwch y Cywydd. Beth oedd yn y papur yr wythnos wedyn, o Geneva neu rywle pell arall, ond y pedair llinell atgas y barnasai yr awdur yn ddoeth eu diarddel. Daethant i fewn yn naturiol ddigon fel dyfyniad o'r llythyr a yraswn i. Bu'r direidi dihysbydd yma'n fywyd i'r Gymdeithas Ddafydd ac yn foddion i dynnu'r bechgyn allan hyd yr eithaf.

Oedd, yr oedd sylfeini gwasanaeth llenyddol Owen Edwards wedi eu gosod mor fore a hynny. O'r Gymdeithas yma o fechgyn yn yr ysgol y cododd yr Orgraff Ddiwygiedig y mae cymaint o son am dani—yr orgraff y bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ag arfer gair