Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teimlai ef na allai fod o ddim cymorth iddo. Ym mhen ychydig amser ar ol i Edwards ddyfod yn ol yn Athro, rhoes yr un gŵr res o bapurau o waith gwahanol fechgyn dieithr i Edwards, i'w beirniadu mor gyflawn a di-gêl ac y medrai; ac fe synnodd arno weled mor llwyr yr oedd ei gyfaill ieuanc wedi adnabod pob un o honynt oddiwrth ei waith. Perthynai Owen Edwards i Gymdeithas y Seminar Hanes, cymdeithas o raddedigion ac is-raddedigion. Cafodd y fraint. eithriadol braidd o ddarllen papur i'r Gymdeithas honno. Os nad wyf yn cam-gofio, yr oedd Hensley Henson, Esgob presennol Henffordd, yn perthyn iddi yr un pryd. Ni chymerai ran yn nadleuon yr Undeb, Cymdeithas boliticaidd y bechgyn; ond gwnâi ddefnydd mawr o Lyfrdy'r Undeb; ac ysgrifennai lythyrau yno beunydd a byth.

Hawdd fuasai coffau aml i ystori er dangos yr argraff a wnâi'r Cymro dawnus ar y cyffredin o Saeson yr Athrofa. Yr oedd difyrrwch di-ddiwedd iddynt yn y gymysgfa ryfedd oedd ynddo ef o ddireidi ac afiaith, hyd at ddibristod, ar y naill law, ynghyd a rhyw anian syml, wledig, Biwritanaidd, ar y llaw arall. Yr unig waith erioed i mi fod mewn theatr, digwyddodd i mi fod ym mraich bachgen o ddehendir Lloegr, oedd yr un fath a minnau heb fod mewn un erioed o'r blaen. Gofynnodd i Owen Edwards, a gyfarfu â ni rywle ar y ffordd, a oedd yntau'n mynd i weld yr actio. "Na," meddai Edwards, "fedra i ddim anghofio'r Salm Gyntaf."

II.

Nid syn fod Syr Owen mor gymeradwy fel Inspector, bod yr athrawon yn ei ddeall ef mor dda, ac yntau'n eu deall hwythau. Fe fu'n athro tra llwyddiannus ei hun ar amryw o risiau'r ysgol ddysg. Bu'n bupil teacher yn Ysgol Genhedlig Llanuwchllyn;