yn Athro Cynorthwyol yn y Bala am flwyddyn; ac yn Athro yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, am bedair blynedd ar bymtheg-o 1888 i 1907. Yn gynnar yn y cyfnod hwn y priododd Ellen, merch y Prys Mawr geneth oedd yn ddihareb am ei phrydferthwch, a chyn hynoted a hynny, i bawb a'i hadwaenai'n dda, am rinweddau'i charictor.
Ni chefais ddim profiad personol o Owen Edwards fel Darlithydd. Diau ei fod yn ddifyr a chlir a chryno. Ond am ei deithi fel Athro Priod, Tutor, mi wn yn lled dda. Wedi bod yn gyd-ddisgybl ag ef am flynyddoedd, ces y fraint hefyd o fod yn un o'i ddisgyblion cyntaf yntau; oblegid cyn ac ar ol ei bennu yn Gymrawd o Goleg Lincoln, fe ddysgai fechgyn o amryw golegau eraill. Yr oedd rhyw elfen oddefol yn perthyn iddo fel athro, a'i galw hi felly o ddiffyg gwell enw,—rhywbeth yn ymylu ar gymryd arno mai'r disgybl fyddai yn ei ddysgu ef, ac nid efo yn dysgu'r disgybl. Deallais ym mhen blynyddoedd mai dyma oedd ei syniad ei am waith Athro—y syniad Socrataidd. Bum yn synnu lawer gwaith na fuasai yn fwy brwdfrydig ei glod i Lewis Edwards, ac yntau'n edmygwr mor fawr o Lewis Edwards fel tywysog y deffroad llenyddol yng Nghymru. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ar y "Traethodau Llenyddol." Ond fe! athrawon soniai fwy lawer am Henry Jones ac Ellis Edwards, am Caird ac A. L. Smith. Dywedodd wrthyf unwaith nad oedd y Doctor ddim yn cynrychioli'r syniad am yr hyn a ddylai athro fod, nag am yr hyn a ddylai addysg fod,—bod ym mysg athrawon Cymru syniad gwell—syniad Watcyn Wyn—tynnu allan trwy addysg yr hyn oedd yn y disgybl, yn fwy na gosod terfyn i ffurf ei gynnydd--mewn gair, llai o ddisgyblaeth a mwy o ryddid. Y mae'r athro yno, nid i dorri llwybr i'r disgybl yn gymaint, ond i gael ei odro am bob cyfarwyddyd y clywo'r disgybl ar ei galon ei ofyn ganddo. Y mae hyn yna, bid sicr, yn