gosod y pwnc yn foelach ac yn blaenach nag y gosodid ef gan Owen Edwards ei hun; ond y ffordd yna yn ddi-ddadl yr oedd ei osgo ef.
Llafuriodd yn ddyfai a diymarbed yn Rhydychen—cadw dosbeirth yn y prydnawn, yn gystal a bore a hwyr, peth nas gwnâi ond ychydig iawn o'r athrawon swyddogol,—dim ond ambell i athro priod a enillai ei fara trwy baratoi'r bachigyn at arholiadau neiltuol—y cerbydwyr, chwedl John Pritchard, Birmingham. Adwaenwn gyd—fyfyrwyr i Owen Edwards—ambell un go ddiffrwyth, ambell un arall aflêr gyda'i waith yn ei ladd ei hun o ddiffyg trefn. Fe fyddai tro yn y wlad am brynhawn yng nghwmni Edwards yn ddigon i roi brawd gwan felly ar ei draed am hanner tymor. Fe ddoi adref fin nos alond ei galon o ymroddiad i amgenach gwaith a diameu mai'r un anian o lywodraethai'r cyfaill pan ddaeth yn Athro wrth ei swydd. Cefais achos ysgrifennu ato rywbryd yn y cyfnod hwn dros ryw fachgen, heb fod yn perthyn i'w Goleg ef, oedd wedi colli tipyn ar y llwybr, a mynd dan gerydd gan yr awdurdodau. Mi hir gofiaf y drafferth a gymerodd a'r tiriondeb a ddangosodd mewn rhoi'r gŵr ieuanc ar y ffordd i ddyhuddo awdurdodau'r Coleg, a dyfod yn ol i lwybrau rhinwedd ac i gywair gwaith. Y mae'n ddirgelwch sut y medrodd wneuthur ei waith mawr a chyson yn yr Athrofa, a gwneuthur hefyd y gwaith llenyddol a wnaeth i Gymru. Nid anghofiodd am awr fod ganddo ysgol eangach na Rhydychen, fod cannoedd yng Ngwlad ei Dadau yn eistedd wrth ei draed ac yn yfed o'i ysbryd.
Am ran o'i dymor yn Rhydychen fe fu'n cynrychioli Sir Feirionydd yn v Senedd. Costiodd hyn yn ddrud iddo mewn llafur a lludded. Llawer gwaith y cafodd hynny a gafodd o gwsg yn nisgwylfa'r Orsaf Drên, er mwyn dal trên bore o Lundain—rhy blygeiniol gan bobl ei westy godi ar ei gyfer a dychwelyd at ei waith i Rydychen. Yr oedd syched am waith