yn nwyd ynddo. Ond pennod rhwng cromfachau oedd pennod y Senedd. Dywedodd hen frawd o bregethwr—Thomas Dafis, Melin Barhedyn, beth gwir iawn wrtho unwaith. Gofynnai Owen iddo: "Oes gennoch chi ddim cyngor rowch chi imi, Tomos Dafis?" Ciliodd yntau gam neu ddau yn ol i gael ail olwg arno; ac meddai: "Paid byth a chwffio. Wnei di ddim cwffiwr." Tybed y gwyddai'r hen bererin gymaint o wir oedd yn ei ddeud?
Nid trwy ymladd y byddai Owen Edwards yn dangos ei wroldeb, ond trwy ddewis ei lwybr ei hun a glynu wrtho heb ofni na gwg na gwên. Osgoi brwydr a wnâi, y rhan amlaf, ond nid o gwbl oddiar lwfrdra, namyn am nad oedd brwydro ddim yn beth wrth ei fodd. herwydd yr elfen yma, ac o herwydd ei fod wedi ei alw at waith mwy, ni chyrhaeddodd ef mo'r enwogrwydd a enillodd rhai o'i gydwladwyr mewn politics. Mewn gair, nid oedd na champ na rhemp gŵr plaid yn perthyn iddo.
Ond er nad oedd ymladd yn perthyn i'w ddawn, medrai ladd ambell i ffolineb yn fwy effeithiol na thrwy ymladd. Medrai wawdio'n ddeifiol; ac nid yn aml y gwelwyd ef yn troi min ei watwareg ar ddim nad oedd yn haeddu'r driniaeth. Adroddir ei fod yn beirniadu mewn eisteddfod leol ym Mhwllheli. Un o'r testunau cystadlu oedd, "Enw Newydd ar Bwllheli."
Yn lle gwobrwyo'r goreu, fe gymerth fantais ar yr amgylchiad i ddangos ffolineb y rhai a osodasai y fath destun. Y feirniadaeth hon a fu'n wasanaeth claddu i'r idea honno: hi ddarfu am dani o'r dydd hwnnw allan. Y mae pawb yn cofio colofn yr ateb cwestiynau yn hen gyfrolau'r "Cymru,"—y Golygydd ei hun, yn ddigon aml, wedi dyfeisio'r cwestiwn er mwyn cael ei ateb; ac nid ychydig o bethau dwl a ddiffoddwyd yn y dull esmwyth yma. Dyma siampl ar antur o "Gymru " Hydref, 1902:-"Athro—'Nis gwn beth yw'r achos fod y Cymro'n ddi-asgwrn-cefn,' Gwyddoch o'r goreu. Chwi yw un achos."