Yn ol ysgrif ddawnus fy nghyfaill Llywelyn Williams, bwriad Syr Owen ydoedd noswylio'n gynnar ac ymroddi i waith llenyddol. Ond daeth galwad newydd. Pennwyd ef yn brif Inspector ar Gymru. Mynych y cwynir nad yw swydd a dawn ddim yn taro'i gilydd; ond dyma, beth bynnag, gyd-darawiad hapus ryfeddol o'r ddau. Am unwaith fe ddaeth y goron ar ben y gwir dywysog. Prin y bu penodiad erioed yn gorwedd yn esmwythach ar deimlad yr athrawon o bob maint a gradd. Yr oedd y tir wedi ei baratoi trwy ei lafur llenyddol ef, yr athrawon ac yntau eisoes ar yr un llinyn. Fe ymroddodd i'r gwaith mewn amser ac allan o amser. Fe weithiai Sir Feirionydd ei hun am flynyddoedd, fel y fferm o gwmpas plas y gwr-bonheddig, heb is-ymwelydd dano i gymryd dim o'r llafur oddi ar ei law. Gan yr athrawon ystyrid ef megis tad; a phan lesmeiriodd y banerwr hwn, nid ychydig o honynt a deimlodd eu bod wedi colli, nid tywysog yn unig, ond câr agos a ffrind. Vr unig beth y mae llawer yn gresynnu am dano yw, na chawsid ym myd addysg Gymreig yr hyn a alwodd Lloyd George mewn cysylltiad arall yn Unity of Command. Pa bryd y down ni'n ddigon call i osod holl gylch addysg Cymru dan un gyfundrefn o arolygiaeth? A phed anturiasid ar hynny yn nydd Syr Owen, nid llai o ryddid i athrawon neilltuol a fuasai, nac o amrywiaeth ym mysg yr ysgolion, ond mwy.
Yng nghyfnod ei waith fel athro yn Lincoln hwyliodd a golygodd amryw gylchgronau "Cymru Fydd" ynghyd a R. Humphreys Morgan; "Cymru"; Cymru'r Plant"; "Wales"; "Heddyw"; a'r "Llenor." Golygodd hen lyfrau, megis Geiriadur John Davies o Fallwyd. Ysgrifennodd amryw ei hun o rai newyddion, a hwyliodd eraill:—"Tro yn yr Eidal," "Geneva," "Llydaw," "Robert Williams o'r Wern Ddu," "Ap Fychan," ac amryw o lyfrau plant. Gwelir nad yw fy rhestr yn agos i gyflawn.