Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ychydig flynyddoedd cyn hynny, anodd fuasai cael llyfr Cymraeg o faintioli cymhedrol i'w roi'n fenthyg i'r claf yn yr Ysbyty. Wedi iddo ef ddechreu llafurio yr oedd digon o ddewis. Y dydd o'r blaen gofynnid i mi dynnu allan restr o lyfrau plant i'w hargraffu i ddeillion. Gofynnais am gyfarwyddyd i ŵr pur hyffordd. Llyfrau Owen Edwards oedd y rhai cyntaf ar y rhestr honno; a chlod ac nid anglod iddo ef oedd bod yno weithiau rhai eraill lieblaw ef; oblegid prawf oedd hynny ei fod ef wedi llwyddo i gychwyn cyfnod. A dyna'r fel y bu hi gyda'r rhan fwyaf o'i waith ef. Blaenffrwyth ydoedd o gynhaeaf toreithiog.

Geilw Mr. Richard Morris Syr Owen yn "broffwyd"; ac yr oedd felly, yn broffwyd yn yr ystyr a roddai Thomas Roberts Jerusalem i'r gair. Dywedai ef fod proffwyd yn rhagfynegi, am ei fod yn gweld hadau'r dyfodol yn y presennol. A'i adnod ef ar y pwnc fyddai honno: "Traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan." Dyna waith proffwyd-dehongli ci bywyd i genedl cyn bod y genedl i gyd yn ymwybodol o hono. Beth ynte oedd cenadwri'r proffwyd hwn, a ddehonglodd Gymru i Gymru? Mai neges gyntaf Cymro yw bod yn Gymro o ddifrif. Felly y gall Cymro fod o fwyaf o wasanaeth i'r byd, trwy fod yn Gymro. Nid oedd dim culni yn Owen Edwards, dim swcro hunanoldeb cenhedlig. Gwelsom amser na fyddai ef byth yn colli cyfle i roi colyn i'r teimlad hwnnw. Ni fyddai byth yn blino tywallt dirmyg ar y ddefod bapur newydd, a fyddai yn dra chyffredin gynt, o gyhoeddi llwyddiant rhyw laslanc yn y Preliminary Pharmaceutical, o dan y teitl, "Dyrchafiad i Gymro." Ond trwy fod yn Gymry, ac nid yn gopi o genhedloedd eraill, y gall Cymro a Chymraes wasanaethu eu cenhedlaeth a chyfrannu y peth a ymddiriedwyd iddynt hwy at gyfoethogi dynol ryw. Pregethodd yr athrawiaeth hon mewn llawer ffordd.

Pan oedd ef yn ifanc, yr oedd hi'n dymor, chwedl