Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Emrys ap Iwan, o ail-ddechreu Cymraeg; ac Edwards a wnaeth fwyaf i wneuthur y Gymraeg newydd yn ffasiwn. Yn hyn yr oedd ef yn fawr yn anad neb o'i gyd-lafurwyr-mewn medru creu ffasiwn. Yr oedd y peth a wawdid gynt fel Cymraeg plwy', Cymraeg Rhydychen, Cymraeg Llafar Gwlad, yn bod ar hyd yr amser. Cadwesid y traddodiad am dano'n fyw yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfnod sych, diffrwyth, ar yr iaith Gymraeg-gan Nicander a John Mills; a chyhoeddasid anathema gan Lewis Edwards ar y Cymraeg gosod a ddygasid i mewn dan ddylanwad Pughe a Gwallter Mechain. Ond rywsut fe ddaliai pobl i 'sgrifennu Cymraeg gosod, Cymraeg gwahanol i'r hyn a siaradent, er gwaethaf yr holl gondemnio oedd arno; a daliai'r papurau newyddion i efelychu priodweddion estronol. Owen Edwards a wnaeth fwyaf i greu'r ffasiwn sydd ar Gymraeg heddyw. Nid dywedyd yr wyf mai efe a wnaeth fwyaf i sefydlu'r briodwedd na'r orgraff. Bu gan eraill, ac y mae gan eraill heddyw, law cyn amlyced ag yntau yn y gwaith hwnnw; ond efo a wnaeth fwyaf i wneuthur y peth yn ffasiwn. Y mae'r cyfnewidiad heddyw mewn newyddiadur a chylchgrawn yn ddirfawr. Yr oedd llyfrau a phregethau heb golli'r traddodiad o symledd clasurol; ond naw wfft i bapurau newyddion deugain mlynedd yn ol! Y maent heddyw'n darllen fel gwaith rhai yr oedd ysgrifennu Cymraeg yn beth annaturiol iddynt. Teimlai llawer er's talm mor wrthun oedd y Cymraeg anghymroaidd hwnnw oedd mewn bri gynt. Pan yn rhyw fachgennyn mi glywais ddadl wrth y bwrdd rhwng rhai o weinidogion y Methodistiaid—Thomas Owen, Porthmadog, ac Evan Jones, ac eraill ar y cwestiwn, ai "mwyrif" ynte "mwyafrif" oedd y gair goreu am majority? Dyfynnu "mwyrif" yr oeddid fel enghraifft eithafol o Gymraeg gwneuthur; ac fel hyn y crynhôdd Evan Jones ffrwyth y drafodaeth: Yr