ydw' i 'n dal fod arfer gwlad yn ddeddf yn y pwnc yna." Ond er bod llawer, hen yn gystal ag ifanc, yn gweld gwrthuni'r Cymraeg gosod, Owen Edwards a wnaeth fwyaf i'w ladd ef. O ganlyniad, daeth ysgrifennu Cymraeg o fod yn grefft gudd i'r ychydig yn waith rhwydd i'r lliaws. Mewn merched y gwelwch chi'r gwahaniaeth. Hwynt—hwy, debyg, ydyw cludyddion goreu pob defod, nid am eu bod yn waseiddiach na'r meibion, ond am eu bod yn fwy byw i gipio popeth fyddo'n mynd. Y merched ddaw a'r ddefod o siarad Saesneg i fewn i ardal Gymraeg. Hwynt-hwy bob amser fydd yn penderfynu ffiniau'r gwahanol raddau sy'n perthyn i gymdeithas, pwy sy'n bobl fawr a phwy sy'n bobl fychain. Ac yn y merched y gwelwch chi'r cyfnewidiad hwn. Ffrwyth cyntaf addysg uwchraddol i ferched yng Nghymru oedd peri na fyddai'r un ferch braidd byth yn ysgrifennu llythyr Cymraeg os medrai hi 'sgrifennu Saesneg. Dyna'r fel y byddai hi, yn bendifaddeu, rhwng 1870 ag 1890. Heddyw chi gewch gystal llythyr Cymraeg gan ferch a chan fab; a pho oreu addysg y ferch, goreu oll fydd ei Chymraeg.
Owen Edwards hefyd a biau lawer iawn o'r clod am ledu cylch darllenwyr Cymraeg. Ni synnai dyn ddim nad barn yr hanesydd fydd, mai Daniel Owen oedd ei brif gydymgeisydd ef yn y gwaith hwn. Rhaid temtio pobl i ddarllen; ac er bod llawer un wedi 'sgrifennu pethau rhagorol yn Gymraeg yn y genhedlaeth hon, y ddau hyn a wnaeth fwyaf o bawb i demtio'r Cymry i ddarllen Cymraeg. Ond heblaw hynny, cafodd Owen Edwards gyfle swydd i wneuthur peth nas cafodd neb arall yr un fantais i'w gyflawni. Fe ddaeth ef i'w swydd fel Inspector pan oedd y clefyd a adweinid fel "Cymru Fydd" yn ei boethder. Yr oedd yr un anian yn John Rhys. Byddai yntau yn siarad Cymraeg â'r plant. Buasai yntau yn Inspector Ysgolion; a chydymdeimlai yn