Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwyadl â'r breuddwyd o gael Cymru eto yn gartref Cymraeg a nythfa i fywyd hollol Gymreig ; ond daeth ei weinidogaeth ef fel Inspector yn rhy gynnar i greu defod. Hau ei ideas mewn drain yr oedd, lle'r oedd Owen Edwards, o'r tu arall, wedi braenaru braenar cyn dyfod i'w swydd. Yr oedd yr amseroedd yn barod weithian i gael ysgolion ar batrwm mwy Cymreig.

Y mae Cymru wedi dioddef er's cenedlaethau oddiwrth yr anffawd o fod ei chynddelw hi yn Seisnig i fesur mawr. Gwnaeth yr hen ysgolfeistri waith ardderchog yn ddiau yn eu dydd. Yr oedd rhai o honynt, yn y Capel, ac yn eu cartrefi, yn hen Gymry trwyadl; eithr fel athrawon yr oeddynt eto heb ymysgwyd oddiwrth y syniad mai'r ffordd i wneuthur Cymro yn ddysgedig a diwylliedig oedd ei wneuthur mor debyg ag oedd bosibl i Sais. Ac am yr ysgolion genethod, yr ysgweier o'r patrwm Seisnig oedd eu cynddelw hwy o ŵr bonheddig; a gwraig y Plas a gwraig y Person oedd perffeithrwydd gweddeidd-dra mewn gair ac ymddygiad. Nid ydym wedi llwyr esgor y clefyd yma eto; ond yr ydym filltiroedd ym. mlaen o'r lle yr oeddym ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Yr ydym yn dechreu gweld fod gan Gymru hithau ei bathau o ddiwylliant, a'i chynddelwau o 'mddygiad boneddigaidd. Gwir nad yn y plasty y ceir hwynt, namyn ym mhlith y ffermwyr mwyaf goleuedig, a'r masnachwyr a'r crefftwyr darllengar; ond y maent yn bod. Pa eisiau i ni fynd ar ofyn dosbarth a'n llwyrwadodd ni am gynddelwau o fywyd diwylliedig a bonheddig? Pob parch i'r hen ysweiniaid a'u llediaith Saesneg. Hwy wnaethant waith gwerthfawr am dymor maith. Bydd ar ddyn ias o hiraeth am rai o honynt heddyw, wrth gofio pa beth a gawsom ni yn eu lle hwy. Beth a feddyliasai Tom Ellis, tybed, o'r to presennol o aelodau Seneddol Cymreig, yn sychedu am swyddi a manteision eraill, a rhyngu bodd y Llyw-