odraeth ar y pryd wedi mynd yn grefydd ganddynt? Ie,'n wir, beth a feddyliasai Mr. Lloyd George yn ei ddyddiau goreu o beth fel hyn? Na, yr oedd hen ŵr bonheddig na wnaeth araith a dim llun arni erioed, yn anaws ei brynu na'r rhai hyn. Ond er gwerthfawrogi pob rhagoriaeth a berthynai i'r hen foneddigion, nid gwiw gwadu nad ŷnt wedi colli pob hawl i fod yn batrymau i'n bywyd cymdeithasol ni. Y maent wedi ymestroni oddiwrthym; a chyn y dechreuom eu hefelychu yn eu defodau, rhaid fydd eu cael hwy yn ol at y patrwm Cymreig. Ond hyd yn ddiweddar, nid oedd gennym ni ddim cynllun o fywyd bonheddig ond teuluoedd a luniasent eu harferion wrth batrwm estronol. Y mae'r gwahaniaeth yn yr ysgolion yn fawr erbyn hyn. Nid yw ddim llai na'r peth a alwai Thomas Williams o'r Rhyd-ddu yn "nefoliwsion." Wrth reswm y mae rhai ysgolion ar ol mewn peth fel hyn. Clywais am ysgol yn ddiweddar iawn lle na chaniateir i ferched v capeli ddilyn y gwasanaeth a hoffent fwyaf. Ac heb law bod gorfod arnynt i fynd i'r Eglwys Esgobaethol, gyrrir hwynt i gyd i'r Odfa Saesneg,-i un Eglwys yn y bore, ac i un arall yn yr hwyr-newid yr Eglwys er mwyn i'r plant gael Saesneg a dim ond Saesneg. Na, a siarad yn ddynol, ni chafodd Syr Owen ddim byw ddigon hir, onid e ni chawsai peth fel hyn ddim byw yn hwy nag
Ac o deithi cenedl y Cymry nid oedd dim amlycach yn Owen Edwards na'i ffyddlondeb i'w chrefydd hi. Beïid ef weithiau gynt am roi pregethu heibio ond dylid cofio un neu ddau o bethau wrth feirniadu y rhan honno o'i hanes. Yn un peth, o'i anfodd y dechreuasai bregethu, a thrwy daer gymell, fel na ellir ei gyhuddo ef o ddefnyddio'r pulpud yn ris i gyrraedd dim byd arall trwyddo. Peth arall, ni throes mo'i gefn ar ystyr ac amcan y Weinidogaeth wrth roi ei gwaith uniongyrchol hi heibio. Gwir y bu cyfnod,