pa hyd nis gwn yn sicr, pryd yr oedd ei weithgarwch crefyddol yn llai nag y buasai cynt, ac nag y bu wedyn -ei weithgarwch eglwysig felly; ond ni phallodd mo'i ffyddlondeb i draddodiadau crefyddol ei genedl, na-ddo un awr. Credai fod crefydd yn gyffredinol, a chrefydd yn yr ystyr neilltuol hefyd-Crefydd Iesu Grist yn rhan hanfodol o hanes Cymru, ac yn hanfodol i ragolygon Cymru Fydd. Dilynodd y ddefod Gymreig (dyma un peth nas hudwyd ni gan esiampl y Sais i'w roi heibio) o gadw lle amlwg i grefydd fel i agweddau eraill bywyd, yn ei holl ymwneuthur â hanes ac â dysg. A phe bâi eisiau prawf o'i ffyddlondeb hanfodol ef i grefydd ei dad a'i fam, cofier ddarfod iddo roi cryn lawer o'i ynni yn niwedd ei oes i'r Ysgol Sul; a gwasanaethodd swydd Blaenor yn y blynyddoedd diweddaf hefyd. Ac ar hyd yr amser, o byddai eisiau cynorthwyo'r Gweinidog, ni fyddai neb parotach nag Owen Edwards. Mewn gwirionedd, ni chefnodd ef ar y Weinidogaeth wrth gilio o'r pulpud, ond cario anian y Weinidogaeth i fyd llenyddiaeth.
Ond y mae'n bryd gofyn bellach, beth oedd ei gymwynas fawr ef â mudiad Cymru Fydd. Y mae rhai o'i gyd-weithwyr yn y deffroad Cymreig yn fwy o spesialistiaid nag ef. Y pethau yr oedd ef yn specialist ynddynt, pethau yw'r rheini y mae ei waith ef ynddynt heb ei gyhoeddi. Credaf y daliai peth o hono'i gymharu â'r gwaith goreu yn yr un meusydd sydd yn y farchnad heddyw. Dyna'r tri thraethawd yr enillodd wobrau arnynt yn Rhydychen, a rhai o'i draethodau tasg yn y gwahanol athrofeydd,-credaf y gwnâi ei blant garedigrwydd a'u cenedl ac â'r byd ped argreffid hwy, neu ddetholiad o honynt. Er darfod ysgrifennu llawer o honynt yn lled frysiog, y mae dawn yr Awdur ynddynt oll: a chyrhaeddodd rhai o honynt dir uchel iawn mewn addfedrwydd a chyflawndra. Ni wn i ddim a oes rhyw beth cystal heddyw, o