Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

waith unrhyw Brydeiniwr, a'i waith ef ar y Diwygiad Protestanaidd yn Ffrainc,-y traethawd gwych hwnnw y barnwyd ef yn oreu arno, ond nas cafodd y wobr o ddeugain punt am dano, am ei fod eto heb ddigwydd mynd trwy'r seremoni o dderbyn ei radd. Ond gwaith mwy cyffredinol, gwaith nad oedd yn faes cyffredinol iddo ef mwy nag eraill, ydoedd llawer o'i waith llenyddol ef. Pa le ynte yr oedd ei ragoriaeth arbennig ef? Beth a osododd ei wlad o dan fwyaf o ddyled iddo fel llenor? Os rhaid enwi un peth mwy na'i gilydd, credaf mai hwn-cadw'r hen a'r newydd ym mywyd Cymru yn un. Perygl oedd iddynt ymestroni i'w gilydd. Y mae galw ym myd llen, yn gystal ag mewn cysylltiadau uwch, am ryw Elias i droi calon y tadau at y plant, a chalon y plant at y tadau; ac ef, fwy na neb arall, a wnaeth hynny.

Os dywed rhywun mai perygl dychmygol y gwaredodd Owen Edwards ni rhagddo, nid rhaid iddo fynd ym mhell i edrych am arwyddion fod y perygl yn bod i raddau eto. Un o'r helyntoedd llenyddol ddechreu haf 1920 oedd beirniadu "Blodeuglwm" y Proffeswr W. J. Gruffydd. A'r feirniadaeth nid oes a wnelom yn awr. Y pwnc y munud yma yw yr ysbryd y cynygid y feirniadaeth ynddo, a'r ysbryd y derbynnid hi o ran hynny hefyd, sef ysbryd her rhwng dwy garfan. Ymosodid ar Mr. Gruffydd, nid ar ei deilyngdod noeth yn gymaint, ond fel cynrychiolydd ysgol newydd. A'r peth sy'n groes i'r graen gan rai yn ei atebiad yntau i'r feirniadaeth ydyw, ei fod yn lled-ameu hawl rhyw feirniaid i feirniadu o gwbl. Ac yng "Ngheninen Gorffennaf y mae araith o waith fy nghyfaill a'm hathro gynt, Llew Tegid. Baich honno yw bod yr ymdrech i wneuthur trefn ar yr iaith Gymraeg wedi peri i lawer betruso ysgrifennu Cymraeg, gan nas gwyddant pa le y maent. "Pwy ydw' i? Os y fi ydw' i, yr wyf wedi colli ceffyl. Os nad y fi ydw' i, yr wyf wedi cael trol.'" Nid oedd neb cymhwysach i roi