Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyngor oddiar y Maen Llog ar y mater hwn na Llew Tegid; oblegid nid ameu neb nad yw ef mewn llwyr gydymdeimlad â phob gwasanaeth a wnaed ac a wneir i lenyddiaeth Gymraeg gan yr Ysgol Newydd. Ond y mae perygl i'r hen a'r newydd fynd yn ddwy garfan, ac yr oedd perygl ugain mlynedd yn ol yn fwy. Naturiol iawn oedd i'r gwahaniaeth rhwng yr hen a'r newydd gael ei fwyhau gan y ddwyblaid. Yr oedd y fath drafferth efo'r orgraff, fel y teimlai rhai a fagesid dan drefn wahanol fod y gwahaniaeth yn fwy nag ydoedd. Ac wedyn fe anghofiai pleidwyr Cymreig Emrys ap Iwan a Chymraeg Rhydychen, nad oedd y defodau a ddilynent hwy fawr amgen na chanlyn ym mlaen ar beth a gychwynasid gan rai yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Wilym Hiraethog, a Nicander, a John Mills—mynd yn ol, mewn gwirionedd at safonau clasurol yr iaith. Gwyddai bechgyn y Cymraeg Newydd hyn yn burion; ond yr oedd yn bur hawdd ei anghofio. Felly y bydd plant y diwygiadau bob amser-meddwl, yng ngwres eu cariad cyntaf, nad oedd dim llun o Grefydd yn y byd nes eu dyfod hwy i'w hadferu hi. Yr un fath yr oedd plant y diwygiad llenyddol. Fe faddeu haneswyr y dyfodol iddynt wrth weld y cyfnewidiad iachus a barasant. Y mae'r rhagor rhwng Cymraeg papur newydd yn 1920 a Chymraeg papur newydd yn 1880 fel bywyd o feirw. Ond y pwnc yn awr yw bod perygl i'r hen a'r newydd syrthio allan, ac i'r traddodiad llenyddol gael ei dorri.

Er nad ydys wedi llwyr esgor y perygl yma, ar y cyfan y mae wedi peidio a bod yn gymaint perygl ag y bu. Digon o braw fod yr hen a'r newydd er's cryn ysbaid bellach, wedi dechreu deall ei gilydd, yw program yr Eisteddod. Cymysgfa iachus a welwn ni yma—yr eisteddfodwr hen ffasiwn yn cydeistedd i feirniadu â'r ysgolhaig, yr astudiwr hyffordd yn yr hen awduron yn cydweithio â'r astudiwr nad yw ei derfyngylch lenyddol fawr pellach yn ol na dechreu'r