ganrif o'r blaen. Yr wyf yn tueddu yn bur bendant, nes cael rhagor o oleuni, i briodoli'r elfen gatholig hon i Syr Owen, nid yn unig, ond yn bennaf o lawer iawn. Cymerer ar antur ddau rifyn neu dri o'r "Cymru" bymtheg neu ddeunaw mlynedd yn ol. Dyma rai o'r ysgrifenwyr oedd gan Owen Edwards y pryd hwnnw : David Lloyd Jones, William John Parry Coetmor, Elis o'r Nant, Winnie Parry, William Williams, Glyn Dyfrdwy, W. T. Ellis, Glaslyn, Tecwyn (sef Griffith Tecwyn Parry y mae'n debyg), R. E. Rowlands, M.A., Robert Bryan, Gwyneth Vaughan, Elfed, Richard Morgan, O. G. Williams (Gaiannydd), mi goeliaf), Defynnog, Wyn Williams, Carneddog, W. J. Gruffydd, T. Gwynn Jones, Elfyn, Anthropos, Iolo Caernarfon, Dyfnallt, Daniel Davies y Ton. Dyma'r golygydd mwyaf catholig ei chwaeth y gwn i am dano. Y mae pob ysgol, pob oedran, pob rhyw, pob math of ddawn, pob graddau o ddysg, ym mysg ei gynorthwywyr. O ran rhestr ei gyfranwyr nis gwyddech i ba ysgol y perthynai ef ei hun. Ymddengys hefyd fod croesawu'r amrywiaeth yma yn ei gylchgronau yn bolisi ganddo. Pan ddaeth y rhifynnau cyntaf o'r "Beirniad" allan, dan olygiaeth ei gyfaill John Morris Jones, dywedai rywbryd mewn ymddiddan, wedi cryn lawer o ganmol ar y cylchgrawn newydd : "Cyfyngu ei hun braidd yn ormod y mae o i lenorion. Dywedasai llawer, ond odid, fod Owen Edwards ei hun yn methu trwy syrthio i'r eithaf arall croesawu pobpeth â rhyw flas Cymreig arno. Ond pa waeth am hynny? da oedd i rywun fethu ar y tu hwnnw i'r llwybr. Bu ei gatholigrwydd rhyddfrydig ef—er darfod iddo weithiau roi benthyg pulpud i ambell i bregethwr sal—yn foddion i gadw nerthoedd llenyddiaeth Cymraeg efo'i gilydd ; a chymwynas fawr oedd hynny.
Nid anfantais i gyd oedd i Owen Edwards ddyfod yn ol i Gymru trwy Loegr. Yr wyf yn cofio clywed Thomas Wheldon yn dywedyd mai peth da iawn i