genedl, ac wedi estyn oes yr iaith Gymraeg. Gosododd Gymraeg a chynddelwau Cymreig ar dir yn yr ysgolion nas cilir mwy yn ol o hono; oblegid fe fagodd Syr Owen dô o ddisgyblion na adawant i'w waith ddatod. A'r cyfnewidiadau mawr a wnaeth fe'u gwnaeth hwy heb dynnu pobl yn ei ben fwy nag oedd raid, ac yn enwedig heb gyfyngu bywyd Cymru trwy unrhyw fath ar gulni naillochrog, heb golledu'r dyfodol o unrhyw gyfraniad o werth yn ei bywyd amrywiog hi. Mwy ac nid llai fydd ei glôd fel y treigla blynyddoedd dros ei goffadwriaeth; oblegid er cymaint a fedodd ar ffrwyth yr oesau o'r blaen, yr oedd yn fwy o heuwr nag ydoedd o fedelwr. Yr oedd yn fawr ei barch gan y Saeson. Pan giliodd o Rydychen i fynd yn Inspector, dewiswyd ef yn Gymrawd o ran Anrhydedd o Goleg Lincoln, rhagorbarch y teimlai ef ei hun yn eithriadol falch o hono.
Adnabu ddydd a nos yn ystod ei yrfa yr ochr yma i'r llen. Profedigaeth y bu yn hir yn ei chefnu oedd colli ei gyntafanedig; a phrofedigaeth nad ymunionodd o honi oedd colli ei briod ryw flwyddyn go helaeth cyn ei ymadawiad yntau. Arferai ddywedyd gynt, rhwng difrif a chware, mai ei ddymuniad fyddai cael rhywun i ganu "Toriad y Dydd" pan fyddai ef yn marw. Pa fiwsig a glywodd ar awr ei ymadawiad nis gwyddom; ond i fyd yr âeth lle mae'r holl fiwsig yn fiwsig toriad dydd; canys ni bydd nos yno." Ac er na chafodd fyw cyhyd ag y carasem ni iddo gael, cafodd fyw'n ddigon hir i weled dydd wedi torri ar addysg ei wlad.