Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III

Y DR. JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn.

RYWBRYD tua'r flwyddyn 1876 neu '77 dywedodd fy nhad wrthyf fod Cyfarfod Pregethu yn Llansantffraid yn Edernion. "Y mae John Williams Beaumaris," meddai, "a John Jones, y Rhos, yn pregethu. Y mae arnaf flys ceisio car i fynd yno." Ni ddygwyd mo'r program hwnnw i ben. Daeth rhyw rwystri ni fynd; ond mawr oedd fy syndod at yr addewid, waith nid oedd crwydro i gyfarfodydd pregethu ddim yn beth cyffredin o gwbl yn hanes fy nhad. Yn fy mam yr oedd mwyaf o'r anian honno. Ac mi welwn fod John Williams yn rhywun pur neilltuol cyn y buasai dyn fel efo yn barod i fyned bedair-milltir-ar-ddeg i'w wrando. Peth newydd iawn y pryd hwnnw oedd bod myfyriwr o'r Coleg yn bregethwr cyfarfod. Tebyg fod peth felly wedi bod o'r blaen; ond peth dieithr iawn ydoedd y blynyddoedd hynny. Gwelwyd ar ol hynny lawer i 'student' yn cyrraedd y gradd hwn.

Yn wir, braidd y bu tô cyfan, byth oddiar hynny, heb fod yn eu plith un neu ddau o'r cyfryw, ac weithiau fwy; ond hyd y sylwais i, rhywle tua hanner y rhai a ddaeth yn bregethwyr poblogaidd yn yr Athrofa a barhaodd felly ar hyd eu hoes. O drugaredd daeth ambell un i'r golwg ar ol gadael yr Athrofa nas gwyddid am dano yn ei flynyddoedd cyntaf. Dyma un, pa fodd bynnag, a enillodd dir amlwg yn gynnar, ac a gadwodd ei le nes machludo'i ddydd. Dywedai'r cyfaill annwyl a chraff, William Jones o'r Felin Heli,