"fod braidd bob pregethwr yn cael ei ddydd gras, ond fod dydd gras rhai ohonon ni'n hynod o fyr." Yr unig beth anhwylus ynglŷn â John Williams yn nechreu'i weinidogaeth oedd bod enw Bryn Siencyn a'i ddaearyddiaeth yn lled ansicr gan bobl o bell. Fe gyhoeddwyd Mr. Williams gan ryw frawd yn y De unwaith fel "John Jenkins, Bryn Wiliam."
Ganwyd ef yng Nghaergors, Llandyfrydog, yn 1855. Mi fum innau'n meddwl, fel y dywedir yn y "Goleuad," mai tua '53 y ganesid ef; ond fe dorrodd ef ei hun y ddadl mewn rhyw ymddiddan tua Chlamai, wel Hen Glamai, 1915. Dywedai'r Doctor, "Dydw i ddim yn drigain eto, ond mi fyddaf yn o fuan." Felly, triugain a chwech oedd ei oed eleni.
Rhaid fod pregethu wedi dechreu cydio ynddo'n bur fore. Yr oedd ganddo gof plentyn am William Roberts, Amlwch, a synnai lawer at y canmol fyddai ar William Roberts. Yr oedd y Patriarch yn wron ym marn John Williams, yr hynaf, tad y pregethwr. Ond ryw Saboth yn y Parc, daeth tro'r plentyn yntau i gael ei gyffwrdd gan bregethwr a gyfrifai ef yn un sych a rhwystrus. "Yr ydych yn synnu," meddai William Roberts, wrth ddisgrifio dioddefiadau'r Gwaredwr, "iddo fo ddioddef fel y gwnaeth o. Wyddoch chi at ba beth y bydda' i'n synnu? Ei fod o wedi troi'r abuse gafodd o yma o'n plaid ni ar ol mynd adre'." "Mi aeth rhyw thrill drwyddo' i," ebai John Williams, pan adroddai'r ystori wrthyf bedair wythnos i ddoe—y tro diweddaf i mi ei weled.
Y tro cyntaf y pregethodd yn y Bala, dipyn cyn gadael yr Athrofa, pregethai yn y bore ar y "Mab Afradlon," ac yn yr hwyr ar "Deuwch ataf fi." Yr oedd eisoes wedi meistroli arddull Gymraeg loew dros ben. Os yr un, yr oedd hi'n fwy blodeuog ddisgrifiadol nag mewn cyfnodau addfetach. Dagrau'r mab ieuengaf "yn berlau tryloewon ar ei ruddiau," ac yn y blaen. Ond yr un arddull oedd hi ag a swynodd