Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bawb fyddai a chlust ganddo filoedd o weithiau ar ol hynny. Yr oedd rhai o deithi ei bregethu ef y pryd hwnnw yn dra thebyg i'r hyn a welid ar hyd y daith. Yr oedd rhagymadrodd pregeth y "Mab Afradlon yn faith, os yr un, o'i gyferbynu â hyd y bregeth. Codai res o bennau a sylwi yn unig ar ddau. Yr unig wahaniaeth oedd fod ganddo bump o bennau y pryd hynny, lle na chlywais i ganddo byth wedyn fwy na phedwar. Adwaenwn ef yn lled dda yn y Bala, gan ei fod yn lletya y drws nesaf i'm cartref; a byddai clywed ei ymddiddanion ar bregethu a rhai hŷn na mi cystal a choleg.

O ran dawn llais, prin y disgwyliasech iddo ymagor fel y gwnaeth, wrth y dull a'i nodweddai y pryd hynny-siarad braidd yn gyflym, ac yn eithaf hyglyw o'r dechreu, y llais a'r oslef ar hyd y bregeth yn gyfryw ag a wnaethai'r tro i areithio ar ddirwest dyweder. Yn wir, y peth tebycaf i'w ddawn ef y pryd hwnnw fyddai araith o bum' munud ganddo mewn cynhadledd wedi i rywun gyffroi tipyn arno mewn dadl-llefaru'n rymus ac ystwyth, ond heb ddim llawer o drawsgyweirio, nac unrhyw newid yn wir ond a ofynnid gan y pwyslais. Yr oedd yn llais ymddiddan, a hwnnw i fesur yn un iach, heb dorri i oslef teimlad.

Ymsefydlodd ym Mrynsiencyn yn 1878. Ordeiniwyd ef yn '79. Symudodd i Princes Road, Lerpwl, yn 1895, o'r lle y dychwelodd i'r Bryn i gartrefu toc wedi 1905, blwyddyn y Diwygiad. Cyraeddasai gadair y Gymdeithasfa a chadair y Gymanfa cyn hynny. Os nad wyf yn camgofio, yn Sasiwn Porthaethwy y bu'n traethu ar "Natur Eglwys " mewn cyfarfod ordeinio. Ym Mhwllheli, beth bynnag, y traddododd y cyngor, ar rybudd hynod o fyr, yn lle Mr. Elias Jones.

Yn y blynyddoedd diweddaf rhoes Prifysgol Cymru, corff sydd yn lled gynnil o'i anrhydeddau,