ddoctoriaeth i John Williams a dangos eu bod yn adnabod diwinydd pan gaent hyd iddo. Fel hyn yr enillodd bob arwydd o barch a fedrai ei genedl a'i enwad ei ddyfeisio, a diau y buasai drysau ereill yn agor iddo pe mynasai ef. Bu'n gapelwr o ran anrhydedd yn y fyddin, a phan bregethai i'r milwyr mawr iawn oedd ei ddylanwad. Cof gennyf iddo ar ddiwedd odfa yn Winchester, ffurfio eglwys i dderbyn rhyw bump a'u cynhygiai eu hunain yn aelodau, un ohonynt yn un y gwyddwn i yn dda amdano. Bachgen ydoedd a llawer o'r elfen grefyddol ynddo pan fyddai ar ei draed, ond ei fod wedi llithro dan hudoliaeth y ddiod. Yr oedd John Williams yn bennaf pregethwr ganddo, ac o dan ei weinidogaeth ef y daeth i'r seiat yn ol, a chael ei drosglwyddo gan y pregethwr trwy lythyr, fel ei gyd-filwyr, i'r eglwys y buasai gynt yn aelod ynddi. Ym mhen ychydig fisoedd ar ol hynny fe syrthiodd yn un o frwydrau Ffrainc, ond allan nid aeth efe mwyach.
Eithr pa anrhydeddau bynnag a enillodd testun y sylwadau hyn, fe'u henillodd yn bennaf dim fel pregethwr. Dyma Alpha ac Omega 'i ddylanwad a'i ddefnyddioldeb. Fe droai'r cwbl o gwmpas hynny.
Y newid mwyaf a ddaeth ar ei ddawn oedd yn y Diwygiad hwnnw tuag 1883, a gysylltir âg enw Richard Owen. Daeth rhyw ddwyster newydd i'w bregethu ef yn y cyfnod hwnnw. Braidd na ddywedai dyn mai cyfuniad eithriadol o ddwyster ac awdurdod oedd ei brif nodweddion. Ond anawdd bod yn siwr beth oedd yn brif mewn gŵr a'r fath gyflawndra of ddoniau ynddo.
Y mae pawb yn cofio'r corff tal, grymus, yr oedd dipyn dros ddwylath o daldra, yr wyneb a ddatganai gymaint o arlliwiau teimlad. Y feirniadaeth a glywech chi gan rai oedd fod yn bur hawdd gweled ar ei ddull yn gwrando sut argraff a wnâi pregeth arno. Gwell gan lawer ohonom bregethwr a wrandawo fel