yna na phregethwr a'i wyneb yn broblem. Byddai ef yn ei ddagrau yn aml o byddai pregeth wrth ei fodd. A thebyg fod yr hyn a'i gwnâi yn wrandawr mor fyw, yn un o'r elfennau a gyfrifai am ei lwyddiant fel llefarwr. Wyneb wedi ei eillio'n lân ydoedd ers cryn flynyddoedd weithian; ond mewn hen luniau gwelir tipyn o gernflew o boptu i'r wyneb, ond heb ddim barf flaen. Yn y pulpud fel ym mhobman byddai ei symudiadau yn esmwyth a gweddaidd. Wedi i'w gorff rymuso a thrymhau, parhâi mor ysgafndroed ag ydoedd yn fachgen. Ni theimlech chi byth mewn parlwr tŷ capel, er ei fod ysgatfydd y dyn mwyaf yn yr ystafell, ei fod yn anhylaw o fawr; a phan symudai yr oedd sioncrwydd a hoewder ym mhob osgo. Byddai tipyn o "swing yn ei safiad yn rhannau cyntaf y bregeth, ond llonyddai beth wrth fynd rhagddo a chynyddu mewn dwyster. Y pryd yma wedi i'w ddawn fynd dan y newid y soniwyd am dano, dechreuai yn ddistawach lawer na chynt; a phan gynhyrfai ei ysbryd, fe newidiai'r llais ei gywair yn gystal a'i rym. Gwnaethai disgrifiad George Matheson o John Caird y tro am ei lais yntau,—"A voice built in terraces." Y mae pregethwr mawr arall yn Sir Fôn y gallech chi glywed, ambell dro, amryw o deithi ei lais yn y saith munud cyntaf, nid y cwbl o lawer, ond amryw yr un pryd. Ond am y Dr. Williams, gallech ei wrando ef am chwarter awr heb wybod pa drawsgyweiriadau oedd yn bosibl iddo, ond pan ddôi trawsgyweiriad—naill yn ai 'floedd awdurdodol neu yn oslef ddwys erfyniol—fe wedd-newidiai gynulleidfa weithiau â gair.
Gwelais beth felly'n digwydd ryw foregwaith yn Nyffryn Clwyd, mewn capel o'r enw Henllan. Un o bregethau Efengyl Ioan oedd ganddo. Pregethodd lawer o Efengyl Ioan pan oedd yn fugail ym Mrynsiencyn, a gellid meddwl fod yn o hawdd ganddo byth wedyn droi i rywle i gymdogaeth y pregethau hynny i