chwilio am bregeth newydd. Wedi yr astudio pregethwr ryw ran o'r Gair yn weddol drwyadl unwaith, fe fydd hwnnw yn faes hawdd iddo wneuthur pregethau ynddo am ei ocs. Ni olyga hynny o angenrheidrwydd ail-godi'r hen bregethau, ond fe wybydd ei ffordd i fewn ac allan yng nghymdogaeth yr ysgrythyrau hynny.
Y bore hwnnw llefarai John Williams yn bur hamddenol am agos i dri chwarter awr-ambell i ymresymiad yn deffro mwy o amheuon nag a ostegid ganddo. Fel y mae rhywbeth llai na'i gilydd yn perthyn i ddynion mawr, ymresymu cywrain oedd y peth gwannaf ym mhregethu John Williams. Er enghraifft, y tro hwnnw, fe amcanai brofi fod y Brenin Mawr weithiau yn defnyddio ac yn bendithio'r anghymwys; a'r siampl oedd byddin o gacwn yn ymosod ar elynion Israel. Yr oeddych dan demtasiwn i ofyn ai byddin anghymwys oedd honno. Braidd na ddywedech chi y buasai miloedd o gacwn, wedi deffro ati hi o ddifrif, yn ddigon o feistres ar unrhyw fyddin a ddôi i'w herbyn. Cymerai ysbaid o ymresymu a manylu, na fuasai dim ond ymadroddiad gwiwddestl a llais swynol y llefarwr yn ei gadw rhag mynd yn drymaidd a'r bobl yn gwrando gan rym eu hyder fod y pregethwr yn un y byddent yn siwr o rywbeth ganddo cyn yr eisteddai i lawr. Yr oedd aml i sylw gafaelgar bid siwr ar hyd y daith, a'r cwbl wedi ei weu a'i weithio yn berffaith wrth gwrs.
Ond o fewn deng munud, mwy neu lai, i'r diwedd, fe gymerth ei anadl ar ol dirwyn i fyny'r gadwyn ymresymiad; ac ymollyngodd i'r oslef gyfareddol honno sy'n nodweddu rhai o bregethwyr goreu y Methodistiaid, a dywedai, â rhyw swn yn ei lais rhwng gwên ac ochenaid o ryddhad: "Fe fydd yn dda gen i am ryw air yn yr Epistol at yr Hebreaid sy'n deud mai'i ogoneddu' gafodd o i'w wneuthur yn Archoffeiriad." Ac oddiyno ymlaen dyna un o'r tameidiau