Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

perffeithiaf o bregethu a glywais i un amser. Medrai John Hughes lunio peroration gwerth ei ddysgu allan bob gair; ond braidd y credaf iddo ef erioed lunio dim byd llawn cyn berffeithied a'r deng munud hwnnw o John Williams.

Diau fod ei ymresymiadau cywreiniaf yn rhoi bodlonrwydd iddo ef; ond ar wahân i'w ddawn ef i wisgo'r ymresymiad-yr oedd honno yn odidog-nid yn y fan yna'r oedd ei ogoniant mwyaf ef. Un o'r rheini ydoedd, y mae eu teimlad lawer pryd yn nes i'w le, nid na'u rheswm, ond na'u hymresymiad. Dyna nodwedd llawer o areithwyr penna'r byd.

Fe fynnai rhai yn wir nad ydoedd cyn berffeithied fel arweinydd eglwysig ag ydoedd fel pregethwr a diwinydd. Hyn sydd sier: ni fyddai'r Dr. Williams byth yn euog o aros heb ddeud ei farn nes bod y pwne bron wedi ei benderfynu, rhag cael ei hun mewn lleiafrif. Byth nid osgoâi ddadl er mwyn cadw'i groen yn iach. Ond yn y pethau y gwahaniaethech chi fwyaf oddiwrtho ar bolitics, neu bolitics eglwysig, chi fyddech yn siwr fod ei anian, ei reddfau ef, bob amser yn eu lle. Methai rhai o'i edmygwyr pennaf a chydolygu ag ef ar y Rhyfel; ond yr oedd ei deimlad ef a'i anian yn cyfeirio'r ffordd iawn ar y cwestiwn anawdd hwnnw. Pan gredai miloedd o ddynion gonest fod y doreth o'r gwrthwynebwyr o ran cydwybod yn rhagrithwyr rhonc, yr oedd John Williams yn credu fel arall. Credai a dywedai yn ddifloesgni fod nifer mawr o Conscientious Objectors yn fechgyn difrif a gonest, a'u bod yn cael cam dirfawr gan y brawdleoedd. Nid yw hyn ond un enghraifft o amgylchiad lle y gall fod teimlad dyn yn nes i'w le na'i farn. Yr un fath mewn diwinyddiaeth, ef wrthodai syniad anfoesol ar yr Iawn, nid am ei fod wedi gallu ymladd ei ffordd i olygiad clir o'r ochr arall, na'i fod chwaith wedi dyfod o hyd i gyfuniad newydd o hen olygiadau, namyn o herwydd bod ei gydwybod iach