yn gwrthod dygymod ag ymddygiad yn y Duw Mawr a fuasai i'w gondemnio mewn dyn.
Nid yw'r hyn a ddywedir yma ddim yn gyfystyr a gwadu nad oedd gwerth mawr a pharhaol ym mhregethau diwinyddol John Williams. Dylai fod dati neu dri dwsin o'r rheini mewn unrhyw ddetholiad teilwng o'i bregethau. Cly wais frawd meddylgar o flaenor yn dywedyd, ar ol gwrando'r bregeth ar
"Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron,"
"Chlywais i 'rioed ddim byd yr un fath a hon. Yr oedd hi wedi ei gweithio fel problem yr Euclid. Ac yr oedd hi felly. Eto mi glywais David Charles Davies yn rhoi beirniadaeth arno na fuaswn i yr amser honno ddim yn ei disgwyl hi o gwbl ganddo ef: "Pregethwr ardderchog yw John Williams, ond braidd yn rhy abstract—dim digon o esiamplau. Nid illustrations ydw i'n ei feddwl, ond esiamplau." Yr oedd hyn tuag 1890 neu '91, ac fe newidiodd John Williams lawer yn hyn o beth yn ei bregethau diwinyddol. Daeth rhyw don fwy ymarferol i'w weinidogaeth wedi ei fyned i Lerpwl—mwy o flas cyffyrddiad agos a phethau fel y maent. Efe a glywais i'n dyfynnu gyntaf linellau Kipling gyda chymeradwyaeth fawr:
"To paint the thing as it is
For the God of things as they are."
Wrth y bwrdd tê yn o fuan wedi ei ymsefydlu yn Lerpwl yr oedd hyn. Yr oedd wedi cyfieithu'r darn i ryw gylchgrawn oedd gan Eglwys Princes Road. Pe bai'r copi yn fy nghyrraedd, byddai'r gân yn werth ei dyfynnu'n llawn yn Gymraeg. Ei gyfieithiad ef yw'r goreu a wnaed eto o honi. Fe fedrai John Williams brydyddu; ac am feirniadu barddoniaeth nid oedd ond ychydig o'i gystal.
Ond i ddychwelyd, er mor ragorol oedd yr elfen ymresymu ym mhregethau John Williams, neu yn y