rhai goreu o honynt, yr oedd yr elfen ymarferol ac apeliadol yn well fyth. Pan fyddai'r ymresymiad yn rhy ddyrys i rai cyffredin eu hamgyffred, fe ddeallai pawb yr ystori ar y diwedd am ryw hen bererin o sir Fôn a'r pennill o Williams Pant y Celyn i'w chlensio hi. "Yr oedd rhyw ŵr crefyddol wedi cymryd yn ei ben i gadw llyfr a rhoi yn hwnnw bob caredigrwydd fyddai fo'n ei wneud a gwaith yr Arglwyddderbyn pregethwr yn ei dŷ, ac yn y blaen. Ryw dro wrth gadw dyletswydd fe gafodd afael ar y gair hwnnw ar ei weddi heb gyfrif iddynt eu pechodau,' a chafodd hwyl fawr ar ganmol gras, yn maddeu heb gyfrif. A phan gododd o'i weddi, Mari,' meddai fo, 'P'le y mae'r hen lyfr hwnnw? Os ydi o'n maddeu heb gyfrif, 'da' innau ddim i gadw cyfri,' a thaflodd yr hen lyfr i'r tân."
Ac fel y byddai y rhannau nesaf at y bobl o'r bregeth yn aml ym mysg ei phethau goreu hi, felly yr oedd ei bregethau ymarferol ef, at ei gilydd, y rhai goreu oedd ganddo. Ac yr oedd ganddo rai o'r rheini ym mhell cyn cyfnod Lerpwl. Yn wir ni fu erioed heb ambell un o honynt, ond eu bod yn mynd yn amlach yn ol yr herwydd fel yr heneiddiai. Mewn dau beth yn wir fe ddaliodd i gynyddu, mewn rhyddid yn ei ddull o ymadroddi, ac yng nghwmpas ei genadwri. Daeth mwy o amrywiaeth gwirioneddau i fewn fel y treiglai blynyddoedd.
Pregeth wych o'r dosbarth yma oedd "Byw'n sobr ac yn gyfiawn ac yn dduwiol." Eglurid beth oedd sobrwydd yn ystyr y Testament Newydd i'r gair. "Welsoch chi ambell i ddirwestwr meddw?" meddai'r pregethwr. "Dyna ydyw diffyg sobrwydd, nwyd yn teyrnasu a rheswm dan draed. Golygfa ydi honno o'r un class a honno welwyd yn y llys—yr Iesu'n garcharor. a Philat ar y fainc."
Byddai ei adnabyddiaeth o ffalster a rhagrith yn ddi-feth. "Glywch chi Balaam," meddai, "yn deud