Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gry', ac yn teimlo'n wan, ac yn deud yn gry' am ei fod yn teimlo'n wan? Pe rhoddai Balac i mi lonaid ei dŷ o aur,' meddai Balaam, "a mynd wedyn am ddyrnaid o arian."

Ni chlywais mo Bregeth Esau; ond clywais adrodd ei bod hi'n un oddeithiol o rymus, a bod y pregethwr unwaith wrth ei phregethu hi, nid yn wylo yn unig, ond yn wylofain gan ddwyster ei gydymdeimlad a'i fater ac a'i wrandawyr.

Fel yr awgrymwyd eisoes, enillodd fwy o ryddid yn ei flynyddoedd diweddaf, wel, yn y pymtheg mlynedd olaf o'i oes—traethai yn fwy ymddiddanol; a dangosai lawer gwaith y medrasai ragori yn y dull hwnnw hefyd pe mynasai. Patrwm o'r ddawn ymddiddan oedd araith o'i eiddo mewn Cyfarfod Pobl Ifainc yn Nhydweiliog, Lleyn. "Dyn heb fod yn iach, fedr o ddim mwynhau pryd o fwyd fel rhywun arall. Y mae arno eisiau' scram.' Y mae pobl felly yn y cylch crefyddol. Nid ydyw bwyd iach, plaen ddim digon ganddyn nhw. Rhaid iddyn nhw gael 'scram '." Ac ychwanegai mewn islais hanner cellweirus: scram ydyw Cyfarfod Pregethu hefyd."

Nid llawer a glywais i arno'n arwain rhannau defosiynol yr addoliad, ar ol cyfnod yr Athrofa; ond rhoddai fri mawr ar y rhan honno o'r gwasanaeth. Dywedai mewn Sasiwn rywbryd am bregethwr yn dechreu odfa fore Sul braf ym Mehefin trwy roi'r pennill hwnnw i'w ganu:

"Mae dydd y Farn yn dod ar frys."

"Yn lle," meddai Mr. Williams, "rhyw bennill felly:

"Mi bellach goda'i maes
Ar fore glas y wawr,"

ac adrodd y tri phennill yn ei ddull di-hafal ei hun.

Gwnaeth y pregethwr mawr hwn lawer heb law