Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethu, gormod hwyrach iddo fedru cael y gorffwys a allasai o bosibl estyn ei oes. Ond er ein bod yn gwarafun iddo ddifa'i ynni ar bwyllgorau o bob math, gogoniant dyn mawr ydyw parodrwydd i weini mewn diflaswaith a fuasai is—law sylw gan rai. Ac yr oedd yn ddyledus i'r elfen yma am lawer o'i ddylanwad mawr ar ei Gyfundeb, ac ar ei Sir yn enwedig. Dilynid ef yn ewyllysgar, nid am ei fod bob amser yn arweinydd anffaeledig. Efe fuasai'r cyntaf i gydnabod nad oedd felly; ond dilynid ef am ei fod gyda'r brodyr yn eu diflaswaith beunyddiol. Nid esgeulusai byth mo'i Gyfarfod Misol ei hun. Codai dri o'r gloch y bore i ddal trên ar ddiwrnod y Cyfarfod Misol. Mawr ydyw effaith y parodrwydd yma i helpu yn y gwaith cyson. Cwyn ambell un yw ei fod yn fyr o ddylanwad i droi pobl i'w ganlyn mewn dadl yn y Sasiwn neu'r Seiat Fisol; ond y gwir yw nad ydynt hwy byth yno ond pan fo arnynt eisiau tynnu'n groes i farn y lliaws. Pe buasent yno o hyd fel John Williams, yn cydwneuthur y gwaith cyson a'r frawdoliaeth, buasent o'r un farn y rhan amlaf a'r Corff, ac yna cawsent drwydded i fynd yn groes i'r farn honno pan fyddai galw, a medrent dynnu'r lliaws gyda hwynt.

Ond fel y dywedwyd, pregethu di—gymar o dda oedd prif spring ei ddylanwad. Ei brofiad fel pregethwr a'i gwnaeth yn esboniwr mor wych. Y mae yn amheus a fu cyflawnach cyfuniad o ddoniau yn hanes y Methodistiaid. Chwi gaech yn ddiau rai mwy nag ef mewn un neu ddau o bethau; ond am gyfuniad o ddoniau y mae'n anawdd meddwl am neb gogyf. uwch. Yr oedd ynddo gryn lawer o hen bregethu hwyliog Sir Fôn, y pregethu hwnnw yr oedd John Pritchard, Amlwch, yn siampl ragorol o honno. Ond yr oedd yn glir oddiwrth wendidau'r pregethu hwnnw. Byddai John Pritchard weithiau yn gwaeddi gosodiadau sychion mewn llais dolefus. Gwyddai John Williams i'r dim pa bryd i weiddi a pha beth i'w weiddi.