Ac ynddo ef yr oedd y pregethu poblogaidd gafaelgar apeliadol wedi ei blethu a meddylgarwch ac athrawiaeth deilwng o bregethu goreu John Hughes. Ond fe feddai ystwythder ymadrodd ac amrywiaeth areithyddol na feddai John Hughes mo hono. Y mae'r pregethwyr cyffredin yn elwa rhywbeth o fod ambell i bregethwr mawr ar y maes; ac o'r tu arall y mae llesmeirio banerwr yn peri i gatrawd gyfan dorri ei chalon.
Ond yn ein hiraeth am un o dywysogion disgleiriaf y pulpud Cymreig, na foed i ni anghofio cydymdeimlo a Mrs. Williams a'r plant. Rhywbeth yn ymylu ar hunangarwch a berthyn i'n galar ni am ŵr mawr tuedd i anghofio fod rhywrai mor agos ato ef a phe na buasai yn ŵr y teimlo cenedl ei golli.
II
Adolygiad ar y gyfrol gyntaf o Bregethau gan y Parch. John Williams, D.D. Wedi eu golygu gan y Parch. John Owen, M.A., Caernarfon.
Dyma waith anodd wedi ei wneuthur yn eithriadol o dda—dodi ar gof a chadw beth o gynhaeaf gweinidogaeth pregethwr mawr. Yr oedd y gwaith yn anos am fod llawer o'r rhagor rhwng pregethwr mawr a phregethwr cyffredin yn y deud yn fwy nag yn y meddyliau; ac yr oedd hyn yn arbennig o wir am y Dr. Williams. Nid nad ydoedd yn feddyliwr wrth gwrs, ac yn fwy o fyfyriwr nag o feddyliwr; ond yr oedd yn fwy o ddeudwr nag o'r un o'r ddau. Galwodd cymydog o bregethwr, a fu yma'r prydnawn heddyw, fy sylw at un prawf arbennig o ogoniant John Williams fel deudwr: "Y mae yma rai pregethau y mae