Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyn yn synnu ei fod o'n medru cael hwyl ar eu deud nhw."

Dywedai David Charles Davies fod tuedd ym mhregethau John Williams i fod yn rhy abstract. Ni wn i ddim a glywodd efe'r feirniadaeth hon yn rhywle. Fe altrodd lawer, bid a fynno, yn yr ugain mlynedd diweddaf yn hyn o bwnc. Gofalai, chwedl Mr. Davies, nid am eglurebau yn unig—byddai cyflawnder o'r rheini ganddo bob amser—ond am esiamplau hefyd o bob gosodiad o bwys.

Ond camp na chyflawnwyd ei thebyg yn aml oedd rhoi mynd ar bregethau fel rhai o bregeth Ton Williams er gwaethaf yr elfen ysgaredig, lafurog, a berthynai iddo fel meddyliwr. Rhaid fod y dawn ymadrodd a'r dawn llais, a phersonoliaeth gyfareddol y pregethwr, yn neilltuol tu hwnt. Ni wyddech chi ddim braidd, wrth ei wrando, ei fod yn cymryd gormod o gwmpas weithiau i ddeud ei feddyliau, a chymryd gormod o gwmpas waith arall i brofi ei bwnc, rhag perffeithied ei oslef a'i bwyslais, a rhag grasloned symudiadau cynnil ei gorff. Fe wnâi hyn o beth dasg y Golygydd yn un bur anodd.

Cafodd gyfle i ddangos beth a fedrai ar y llinell yma yn yr anerchiad ar bregethu. Feddyliwn fod mwy o waith golygu ar hwn nag ar nemor un o'r pregethau, gan ddarfod cyfuno yn hwn amryw ysgrifau i'w gael i'r ffurf sy arno. Ag ystyried hynny, y mae'r anerchiad yn wyrth o gyfanrwydd di—wnïad. Pe bawn i'n dipyn iau mi gymerwn hwn yn faes llafur, a'i ddysgu allan bob gair.

Wrth ei ddarllen ni allech beidio cofio mai John Owen oedd y perffeithiaf o'r ysgrifenyddion Sasiwn a fu'n rhoi adroddiad o Seiat y Sasiwn yn y Drysorfa. Yr oeddwn i'n digwydd cofio rhai o'r anerchiadau a gofnodid, ac heb greu o ddim, rywsut, byddai'r Ysgrifennydd yn llwyddo i roi'r fath amlygwydd i bob clwt glas yn y drafodaeth, ag arfer gair John