Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams, fel y byddai'r Seiat yn well bron yn y Drysorfa nag oedd hi yn y Sasiwn. Yr oedd yr adroddiad fel gwaith Prydderch yn ledio pennill. Os bydd yno ryw ddwy linell well na'i gilydd mewn emyn fe gaiff y rheini chware teg. Felly yn yr anerchiad yma, y mae yn geinwaith celfyddyd fel rhannau o Lyfrau Moses, yn well o'r ddau wedi bod trwy ddwylo'r redactor nag oeddynt gan yr awdur cyntaf. Nid John Owen yn lle John Williams sydd yma, ond John Williams ei hun ym mhob brawddeg, John Williams wedi ei ddethol a'i gydasio yn ddichlyn dros ben.

Am y detholiad o'r pregethau, nid gwiw beirniadu hynny heb ein bod ni'n gwybod beth oedd gan y Golygydd i ddethol ohono. Digon posibl fod yn well gan y Golygydd aml i bregeth na rhai o'r rhai a ddodwyd ganddo yma, ond nad oedd y rheini ddim mewn ystâd mor hwylus i'w hargraffu, ddim mor gyflawn a gorffenedig. Mi garaswn i fod y Bregeth ar Esau yn Sasiwn Pwllheli, pregeth a baratowyd i'r wasg gan y pregethwr ei hun, i mewn. Ni chyfansoddodd ef na neb arall fawr ddim byd gwell yn ei llinell ei hun na honno.

Yr oedd ganddo ddwy bregeth ar "Y Bugail Da," un yn gynnar ar ei weinidogaeth, a'r llall yn y deunaw mlynedd diweddaf dyweder. Tyfu o gyfnod i gyfnod ar ei oes a wnaeth y pregethwr, a chymryd ei weinidogaeth drwyddi; ond fel arall y digwyddodd hi gyda'r ddwy bregeth hyn; yr hynaf o'r ddwy yw'r oreu o gryn lawer yn ol hynny o gof sy gennyf fi. Yr ail a ddodwyd yn y gyfrol,—" Adnabyddiaeth y Tad o'r Mab," Ioan x. 15. Da gan ddyn wrth gwrs gael y bregeth hon, pe dim ond er mwyn cael yn y gyfrol ddatganiad clasurol o un o feddyliau mawr y pregethwr—sylfaen yr iechydwriaeth ym mherthynas y Tad a'r Mab. Ond yr oedd yr idea honno yn yr hen bregeth. A chyda hynny yr esboniadaeth yn well a